NEWYDDION

Cymorth a chefnogaeth am ddim i sefydliadau treftadaeth Cymru

27 / 11 / 2014

A ydych yn fudiad treftadaeth yng Nghymru? A oes arnoch angen cymorth neu gyngor ar godi arian?

 P’un ai ydych yn newydd i godi arian neu angen ambell i syniad newydd i adfywio strategaeth eich mudiad yna gall prosiect WCVA, Catalydd Cymru- Codi Arian ar gyfer Treftadaeth, gynnig cymorth am ddim i ddatblygu’ch sgiliau a’ch llwyddiant codi arian.

Ar gyfer pwy mae Catalydd Cymru – Codi Arian ar gyfer Treftadaeth?

Mae Catalydd Cymru – Codi Arian ar gyfer Treftadaeth yn agored i bob aelod o staff, gwirfoddolwr ac ymddiriedolwr yn y sector treftadaeth yng Nghymru gan gynnwys:

  • Amgylchedd hanesyddol
  • Treftadaeth tirwedd a naturiol (gerddi hanesyddol, bywyd gwyllt, coetir)
  • Diwydiannol, morol a thrafnidiaeth
  • Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau
  • Treftadaeth anniriaethol (megis cadwraeth atgofion, neu brosiectau hanes llafar)


Beth sy’n cael ei gynnig?  

 

Mae’r hyfforddiant a’r cyngor wedi’u hanelu at fudiadau o bob gallu a phrofiad, byddant yn cael eu darparu ledled Cymru a’u cynnal mewn lleoliadau ac ar amseroedd addas i chi.

*Bydd rhai cyrsiau hyfforddi yn codi ffi weinyddol o £20. Gweler y dudalen hyfforddiant a digwyddiadau i gael mwy o wybodaeth.

Am rhagor o wybodaeth ewch i’r safle we Catalydd Cymru