NEWYDDION

Adnoddau addysgol ar y Rhyfel Byd Cyntaf wedi’u lansio

01 / 12 / 2014

Adnoddau addysgol ar y Rhyfel Byd Cyntaf wedi’u lansio

Gwnaeth Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, lansio adnoddau addysgol newydd arloesol fel rhan o weithgareddau Llywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.education 2

Roedd disgyblion o Ysgol Sant Baruc, Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd ac Ysgol Bro Myrddin ymhlith y gwesteion mewn digwyddiad yn y Senedd lle disgrifiodd y Gweinidog sut mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’i phartneriaid, yn addysgu pobl ifanc am y rhyfel a’r rôl bwysig Cymru ynddo.

Datblygwyd yr adnoddau addysgol mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Byddant yn helpu pobl ifanc i ddeall sut gwnaeth Cymru a’r byd newid am byth o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r cynadleddau heddwch a ddilynodd.

Mae’r adnoddau’n ddwyieithog, yn drawsgwricwlaidd ac yn cynnwys recordiau sain, fideos, delweddau a thestunau yn ymwneud â’r Rhyfel. Maent yn cynnwys cynlluniau gwersi posibl a dolenni i’w defnyddio mewn perthynas â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

Mae’r adnoddau yn un o sawl ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n annog disgyblion i nodi’r canmlwyddiant.

Hefyd, mae ysgolion uwchradd yn cael cynnig cyfle i wneud cais am grant o hyd at £1,000 i ariannu prosiectau coffa ac addysgiadol yn eu hardal.

Yn ogystal, mae prosiect dysgu cynhwysol Cymru yn y Rhyfel yn cynnwys app ‘Theatrau Rhyfel’. Drwy ddefnyddio geo-dechnoleg, bydd disgyblion yn gallu gweld lle y gwnaeth milwyr, morwyr ac awyrenwyr ymladd, farw a chael eu claddu. Bydd hefyd yn disgrifio’r amodau yr oedd yn rhaid i bersonél y lluoedd arfog eu hwynebu yn ystod y rhyfel.

education pict 2Mae’r rhain yn rhan o raglen coffa ehangach Llywodraeth Cymru, sef Cymru’n Cofio 1914-1918. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys digwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol, ar y cyd â gweithgareddau cymunedol fel ymchwilio i gofebau rhyfel lleol, ynghyd ag amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni addysgol.

Meddai Huw Lewis:  “Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yng Nghymru yn ymwybodol o’r aberthau a wnaed gan bobl o Gymru yn ystod y rhyfeloedd erchyll byd-eang ar hyd y canrifoedd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn y flwyddyn lle rydym yn nodi 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. “Dyna pam rwyf mor falch ein bod wedi datblygu’r adnoddau hyn gyda’n partneriaid fel bod pobl ifanc yn gallu deall yn well brofiadau eu cyndeidiau yn ystod y Rhyfel a helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn dysgu gwersi ein gorffennol.”

Ychwanegodd Aled Gruffudd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae’r adnoddau dysgu unigryw hyn yn dangos sut all casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ehangu gorwelion pobl ifanc. Pa ffordd well o ddysgu am y Rhyfel Byd Cyntaf o safbwynt Cymru na thrwy ddefnyddio ffynonellau Cymreig. “Am y tro cyntaf bydd gan athrawon yng Nghymru yr adnoddau i gyflwyno’r hanes hwn drwy ddefnyddio straeon pobl o Gymru. Mae yna bosibiliadau yn ein casgliadau i gynhyrchu adnoddau dysgu digidol ar themâu eraill yn y dyfodol sy’n diwallu anghenion athrawon a disgyblion yng Nghymru.”

education 4                                                                         education pict

Gellir gweld a llwytho’r adnoddau o Hwb drwy fynd i https://hwb.wales.gov.uk/ -> Adnoddau -> Rhyfel Byd Cyntaf: Prosiect Addysg.