NEWYDDION

Cymru’n Cofio Cadoediad y Nadolig

11 / 12 / 2014

Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn cynrychioli Cymru mewn gwasanaeth arbennig sy’n cael ei drefnu gan UEFA, corff llywodraethu pêl-droed yn Ewrop, i nodi canmlwyddiant Cadoediad y Nadolig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn bresennol yn y seremoni, a gynhelir yn Comines-Warneton yng Ngwlad Belg, bydd cynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop. Byddant yn dod ynghyd i gofio’r foment hanesyddol pan fu i’r ymladd beidio a bu i filwyr o wahanol wledydd chwarae gêm o bêl-droed gyda’i gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n arwain rhaglen swyddogol o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf – Cymru’n Cofio  Wales Remembers 1914 -1918 – gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau o bob cwr o Gymru, a thu hwnt.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae’n anrhydedd gwirioneddol cael cynrychioli Cymru yn y digwyddiad hwn. Rwy’n credu’n gryf bod chwaraeon, yn ogystal â helpu pobl i gadw’n heini, yn gallu helpu i ddatblygu hunanhyder pobl a meithrin ymdeimlad o berthyn.

“Mae gêm bêl-droed enwog Cadoediad y Nadolig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn enghraifft wych o rym chwaraeon – daeth pobl o wahanol ddiwylliannau, oedd ar ochrau gwahanol yn y rhyfel echrydus hwn, ynghyd i chwarae.

“Mae cael arwain rhaglen o ddigwyddiadau yng Nghymru i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf yn fraint. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio’r aberth a wnaed er budd heddwch a rhyddid – a chydnabod sut y bu i hyn weddnewid hanes.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi arddangosfa Cadoediad y Nadolig a ddatblygwyd gan Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a phartneriaid yn yr Almaen a Ffrainc. Yn yr arddangosfa deithiol, fydd i’w gweld yn Wolkenstein yn Sachsen, Armentières yn Nord Pas de Calais, yn ogystal â Chastell Bodelwyddan yng Nghymru rhwng Ionawr 15 a Mawrth 31 2015,  ceir eitemau a gyfnewidiwyd gan y milwyr yn ystod Cadoediad y Nadolig.