Diwrnodau Partneriaeth Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) a Llywodraeth Cymru
12 / 12 / 2014Hoffai’r IWM a Llywodraeth Cymru eich gwahodd i ddigwyddiadau Partneriaeth y Canmlwyddiant:
Dydd Iau 22 Ionawr, 10 am – 4pm
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
neu
Dydd Gwener 23 Ionawr 10 am – 4pm
Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd
Gwahoddir sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ar brosiectau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, boed y rheiny’n brosiectau bach neu fawr, i fod yn bresennol i drafod yr hyn sydd wedi ei wneud hyd yn hyn a rhannu gwybodaeth ynghylch gwaith i ddod.
Thema’r digwyddiadau yw ‘Gwersi a Ddysgwyd’.
I gadw lle, e-bostiwch extranet1914@iwm.org.uk gan nodi pa leoliad fyddai orau gennych, ynghyd â’ch enw, enw’ch sefydliad, ac unrhyw ofynion deietegol neu anghenion o ran mynediad a allai fod yn berthnasol.
Dyrennir llefydd ar sail ‘y cyntaf i’r felin…’ a chaiff pob sefydliad anfon 2 gynrychiolydd.
Siaradwyr Gwadd
Yn y bore, cawn glywed gan y siaradwyr canlynol:
Llandudno:
Gina Koutiska – Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
Dr Dafydd Roberts – Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Cymru
Berian Elias a’r grŵp cymunedol – Casgliad y Werin Cymru
Linda Tomos – CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Naomi Jones – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (i drafod Hedd Wyn, Yr Ysgwrn ac Y Gadair Ddu)
Dr Kevin Mason – Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan (i drafod arddangosfa Cadoediad y Nadolig)
Anne Pedley – Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (i drafod prosiectau Gallipoli)
Shirley Williams – Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (i drafod y prosiect Wynebau’r Rhyfel Byd Cyntaf)
Bae Caerdydd:
Gina Koutsika – Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
Lesley-Anne Kerr – CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Ffion Fielding – Amgueddfa Cymru
Hazel Thomas a’r grŵp cymunedol – Casgliad y Werin Cymru
Yr Athro Christopher Williams – Prosiect cartwnau JM Staniforth
Rachel Silverson – Amgueddfa Firing Line a grŵp cymunedol y Rhyfel Byd Cyntaf, Caerdydd
Philip Davies – Cofeb Coed Mametz
Amcanion
- Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl i’w helpu gyda’u cynlluniau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
- Rhoi syniad cyffredinol i bawb o’r holl bethau sy’n digwydd yng Nghymru i nodi’r Rhyfel.
- Gwerthuso arferion hyd yma.
- Rhannu gwybodaeth a phrofiadau er mwyn llunio a llywio prosiectau’r dyfodol.
- Annog gweithio mewn partneriaeth a thrafod yn onest ac yn agored.
I nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae mwy na 3,300 o sefydliadau o 52 o wledydd wedi ymuno â Phartneriaeth y Canmlwyddiant, dan arweiniad IWM, i nodi’r Rhyfel yn gyhoeddus a chynnal gweithgareddau addysgol.
Am ragor o wybodaeth ar Bartneriaeth y Canmlwyddiant, ewch i: www.1914.org/partnership
Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 -1918 yw’r rhaglen swyddogol o ddigwyddiadau i nodi’r canmlwyddiant yng Nghymru, mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt: https://www.cymruncofio.org
Nodwch y bydd enwau a chyfeiriadau e-bost cynadleddwyr yn cael eu rhannu ar ôl y gynhadledd er mwyn annog gweithio mewn partneriaeth. Nodwch wrth ateb os NAD YDYCH am i’ch cyfeiriad e-bost gael ei rannu. Efallai y bydd ffotograffydd yn tynnu lluniau ar y diwrnod hefyd.