NEWYDDION

Cymru’n croesawu arddangosfa ryngwladol newydd i gofio Cadoediad Nadolig 1914

10 / 01 / 2015

Bodelwyddan exhibitionHeddiw, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn lansio arddangosfa i nodi canmlwyddiant y digwyddiad rhyfeddol hwnnw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sef Cadoediad enwog Nadolig 1914.

Cynhelir yr arddangosfa, a drefnwyd gan Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a phartneriaid yn yr Almaen, Gwlad Belg a Ffrainc i nodi canmlwyddiant y Cadoediad, yng Nghastell Bodelwyddan rhwng Ionawr 11 ac Ebrill 12. Mae wedi bod ar daith o gwmpas cyfandir Ewrop ers mis Awst.

Trwy eiddo a storïau’r milwyr eu hunain, mae’r arddangosfa yn rhoi cip ar eu profiadau personol nhw o gadoediad enwog Nadolig 1914.

Ar gyfer ymweliad yr arddangosfa yma, a  chyda help Llywodraeth Cymru, mae Castell Bodelwyddan a Gwasanaeth Archif Conwy wedi ei datblygu i ddangos effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru.

Bodelwyddan exhibition 2Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae stori Cadoediad y Nadolig yn un o storïau mwyaf cyfarwydd ac ysbrydoledig y Rhyfel Byd Cyntaf. Am ennyd fach, tawelodd twrw’r rhyfel a rhoddodd milwyr y ddwy ochr eu harfau i’r neilltu.

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o allu cefnogi’r arddangosfa ddiddorol hon, drwy ei chroesawu i Gymru. Mae ei thaith lwyddiannus ar gyfandir Ewrop yn dyst i awydd pobl i barhau i ddysgu am ryfel hynod ddinistriol ac i gofio amdano, gan gynnwys, yn yr achos hwn, sut mae’r ysbryd dynol yn gallu disgleirio hyd yn oed yng nghanol erchyllterau cyflafan.” 

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y rhaglen swyddogol ar gyfer coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru,  sef rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Rydyn ni’n falch o gael y cyfle i arwain rhaglen Cymru ar gyfer coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffordd mae pobl wedi ymateb iddi. Mae mor bwysig cofio’r aberth a gafodd ei gwneud i sicrhau heddwch a rhyddid, a’r effaith bellgyrhaeddol a gafodd hyn i gyd ar ein hanes hyd heddiw.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn  Llyfryn Cadoediad y Nadolig 1914 a thu hwnt.