NEWYDDION

Prif Weinidog Cymru yn dadorchuddio copi drwy dechnoleg argraffu 3D o Gadair Ddu eiconig Hedd Wyn

13 / 01 / 2015
© Llywodraeth Cymru

© Llywodraeth Cymru

Heddiw bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn dadorchuddio cadair sy’n gopi trawiadol chwe throedfedd o Gadair Ddu wreiddiol y bardd Hedd Wyn, a wnaed drwy dechnoleg argraffu 3D.

Enillodd Hedd Wyn y gadair am ei awdl Yr Arwr yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917, chwe wythnos ar ôl iddo farw wrth ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyfarnwyd y gadair iddo mewn seremoni ar ôl ei farwolaeth a rhoddwyd lliain du dros y gadair yn ystod y seremoni cadeirio. Arweiniodd hyn at roi’r enw nodedig “Y Gadair Ddu” ar y gadair hon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri drwy CyMAL i ddefnyddio’r dechnoleg argraffu 3D ddiweddaraf i ail-greu cadair sy’n union yr un fath a’r un maint â’r Gadair Ddu. Bydd y gadair yn cael ei harddangos yn y Senedd tan ddiwedd mis Mawrth, ac yna caiff ei defnyddio i ddehongli stori Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyn y seremoni ddadorchuddio dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Hedd Wyn yw yn o feirdd enwocaf a mwyaf dylanwadol Cymru.

© Llywodraeth Cymru

© Llywodraeth Cymru

“Wrth inni goffáu can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r Gadair Ddu wedi dod yn symbol o effaith ddirdynnol y Rhyfel Mawr ar gymunedau a theuluoedd ar draws Cymru, nifer ohonynt wedi colli tadau, brodyr, ewythrod a meibion yn y gyflafan.

“Mae hyn yn wir am Hedd Wyn. Roedd ei farwolaeth drasig ar faes y gad yn Fflandrys ym 1917 yn golygu na fyddai byth yn gallu hawlio ei gadair Eisteddfodol, a elwir bellach Y Gadair Ddu.

“Mae’n briodol felly ein bod wedi gallu ariannu’r gwaith o ail-greu’r gadair hon sydd wedi dod yn un o’r cadeiriau Eisteddfodol gwirioneddol eiconig. Mae’r gadair brydferth hon wedi cael ei chreu drwy ddefnyddio’r dechnoleg argraffu 3D ddiweddaraf. Rwy’n annog pobl i ddod i’w gweld, nid yn unig i gofio am Hedd Wyn ond i gofio am bawb a laddwyd yn y Rhyfel Mawr. Rwyf hefyd yn llongyfarch Prifysgol Caerdydd am iddi ddangos sut mae Cymru yn arwain y byd wrth ddefnyddio technoleg fodern i wneud hanes yn rhywbeth byw.”

Dywedodd Rob Aldridge, Rheolwr Gyfarwyddwr Drumlord Ltd: “Roedd hwn yn brosiect bendigedig i weithio arno. Fe wnaeth ein galluogi ni i ddangos sut y gall y dechnoleg ddiweddaraf gyfuno â thechnegau traddodiadol sefydledig i ddarparu modelau o’r ansawdd uchaf. Mae’r gadair wreiddiol yn rhan fawr o hanes diwylliannol Cymru ac mae ei hail-greu’n dangos parch ac edmygedd i orffennol cyfoethog a phwysig ond hefyd yn edrych ymlaen â sicrwydd i’r dyfodol.”

© Drumlord Ltd

© Drumlord Ltd

Wrth sôn am y bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, dywedodd yr Athro Phil Bowen, Cyfarwyddwr yr Ysgol Beirianneg ei fod “wrth ei fodd gyda’r cyfuniad o gydweithrediad a thechnolegau gweithgynhyrchu gwerth uchel yng Nghymru sydd wedi gallu ennyn diddordeb o’r newydd yn un o straeon mwyaf ingol y Rhyfel Byd Cyntaf.”

“Ers canol yr 1990au mae’r Labordai Ychwanegu Haenau yn Adran Beirianneg Prifysgol Caerdydd wedi bod â hanes llwyddiannus iawn o ran ymchwilio a datblygu’r hyn y cyfeirir atynt bellach fel technolegau argraffu 3D”, meddai.

Ychwanegodd yr Athro Bowen “Drwy weledigaeth y partneriaid, arbenigedd ein tîm gweithgynhyrchu ychwanegu haenau, a’r cydweithio â Drumlord Ltd, credaf ein bod wedi llwyddo i wneud cyfiawnder â llwyddiant technolegol a gweledol eithriadol Eugeen Vanfleteren, sef y gŵr a greodd y Gadair Ddu wreiddiol.”

Y Gadair Ddu, Ail-greu Campwaith