NEWYDDION

CAIS GAN CYMRU’N COFIO WALES REMEMBERS 1914-1918 AM MANYLION DIGWYDDIADAU AR GYFER LLYFRYN RHAGLEN 2015.

29 / 01 / 2015

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddodd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 lyfryn ar gyfer Rhaglen 2014, sef y cyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau blynyddol sy’n nodi digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru, neu ddigwyddiadau perthnasol i Gymru a gynhelir y tu hwnt i’r ffin, i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y llyfryn hefyd yn cynnwys erthyglau a oedd yn manylu ar amryw ddigwyddiadau a phrosiectau coffáu. I weld Rhaglen 2014 Cymru’n Cofio 1914-1918, cliciwch yma.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Raglen 2015, ac mae’r neges hon yn apêl am fanylion digwyddiadau i’w cynnwys yn y cyhoeddiadau ar ei chyfer.

Byddwn yn cyhoeddi detholiad o ddigwyddiadau yng Nghymru, neu sy’n gysylltiedig â Chymru, a gynhelir i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Os ydych am inni ystyried cyhoeddi eich digwyddiad chi, cewch anfon y manylion atom drwy eu hychwanegu at wefan ein Rhaglen, gan ddefnyddio’r ffurflen electronig ar yr ochr chwith.

Os nad ydych yn siŵr p’un a yw eich digwyddiad yn addas ar gyfer y wefan, neu os hoffech siarad â ni amdano, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bostio cymruncofio-walesremembers1914-1918@Wales.GSI.Gov.UK. Nid ydym mewn sefyllfa i allu talu am gyhoeddi manylion eich digwyddiad.

Byddem yn ddiolchgar iawn am ymatebion erbyn 9 Chwefror fel bod digon o amser gennym i ystyried a phrosesu unrhyw ddigwyddiadau a anfonir atom.