Cymru’n cofio digwyddiadau pwysig y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015
06 / 02 / 2015
Bydd adegau allweddol yn hanes Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys Ymgyrch Gallipoli, yn chwarae rhan bwysig yn y digwyddiadau a drefnwyd eleni i gofnodi canmlwyddiant y brwydo. Dyna ddywed Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Yn ystod ymweliad â’r arddangosfa ar Gadoediad y Nadolig yng Nghastell Bodelwyddan sy’n rhan o raglen ganmlwyddiant Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau Llywodraeth Cymru i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015.
Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu arddangosfa deithiol ar y Cymry yn Gallipoli. Caiff ei lansio fis Awst a bydd ar daith hyd fis Ionawr 2016. Cyrhaeddodd y lluoedd Cymreig Gallipoli ar Awst 9fed 1915, a dioddef colledion enfawr ym Mae Suvla ar y 10fed. Teimlwyd y colledion hyn yn arbennig yng ngogledd Cymru gan mai dwy fataliwn diriogaethol leol oedd y 6ed a’r 7fed Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, a galwyd y diwrnod hwn yn un o ddyddiau duaf y rhyfel i’r ardal.
Cofir cyfraniad Cymru i Frwydr Loos hefyd, sef yr ymosodiad Prydeinig mwyaf a wnaed ar y Ffrynt Gorllewinol yn ystod 1915.
Dyma rai gweithgareddau eraill yn 2015:
- Lansio ap Cymru yn y Rhyfel, dan arweiniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Mae Prosiect Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Bydd yn cynhyrchu adnodd dysgu digidol er mwyn i bobl ifanc allu deall sut y newidiodd Cymru a’r byd o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf.
- Ffocws ar weithgareddau a digwyddiadau yn y gymuned, megis arddangosfa yn y Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, gyda’r gymuned leol yn cymryd rhan. Mae manylion llawn am ddigwyddiadau lleol ar gael ar wefan Cymru Cofio Wales Remembers 1914-1918 www.cymruncofio.org
- Diwrnod Anzac ar 25 Ebrill. Bydd y Prif Weinidog yn mynd i Wasanaeth Diolchgarwch yn Abaty Westminster.
Meddai’r Prif Weinidog: “Eleni fydd canmlwyddiant digwyddiadau arwyddocaol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gyffyrddodd deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Ymgyrch Gallipoli, a effeithiodd yn arbennig ar gymunedau yng ngogledd Cymru, a lle mae’r cofebion rhyfel yn dyst i effaith ofnadwy’r frwydr ar Awst 10fed, 1915.
“Mae’n addas ein bod yn cofio’r digwyddiadau hyn wrth inni barhau i gofnodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, rhyfel a newidiodd gymaint yng Nghymru a’r tu hwnt.”
Yn ystod ei ymweliad â’r arddangosfa ar Gadoediad y Nadolig, cyfarfu’r Prif Weinidog â disgyblion o Ysgol y Faenol, Bodelwyddan.
Meddai: “Mae’n bwysig fod cenedlaethau’r dyfodol yn cael gwybod beth ddigwyddodd yr adeg honno, a sut y gwnaeth hynny siapio ein byd heddiw. Rwy’n falch o gyfarfod Ysgol y Faenol, sydd ymhlith llawer o bobl ifanc sydd wedi cael cyfle i weld yr arddangosfa ragorol hon yng Nghastell Bodelwyddan.”
Mae ysgolion uwchradd yn cael cyfle i wneud cais am arian grant ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae grant i ailwampio cofebion rhyfel mewn cymunedau ledled Cymru ar gael hefyd. Mae rhagor o fanylion ar gael ar: http://learning.wales.gov.uk/news/sitenews/grant-funding-for-first-world-war-commemorations/?lang=cy
a