Prosiect Diogelu Cofebion Rhyfel Byd Cyntaf Powys yn derbyn Grant Treftadaeth
09 / 02 / 2015
Prosiect Diogelu Cofebion Rhyfel Byd Cyntaf Powys yn derbyn Grant Treftadaeth
Mae prosiect Rhyfel Byd Cyntaf i ddarganfod, cofnodi ac adfer holl gofebion rhyfel Powys wedi derbyn grant £350,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).
Fe fydd y prosiect arloesol, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys, yn sicrhau cynhaliaeth a chadwraeth y 276 cofeb rhyfel sydd eisoes yn hysbys i’r sir – gan gynnwys 13 adeilad rhestredig- ynghyd â darganfod y rheiny sydd wedi eu colli neu anghofio. Mae pecynnau cymorth wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer cymunedau, ysgolion ac ymchwilwyr i helpu cymunedau ar hyd y sir cymryd cyfrifoldeb dros eu cofebion a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru, “Rydym yn gweld y prosiect hwn fel cyfle gwych i ddatgelu’r gorffennol anghofiedig. Mae ein rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw yn cynnig i bobl ar hyd a lled Cymru i ddysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae’r dull sir-gyfan yma’n ffordd wych i nid yn unig helpu pobl i ddysgu mwy am y rhan yma o’n treftadaeth ond rhoi’r sgiliau iddynt ddysgu am ac ymchwilio’r hanes eu hunain.”
Cofebion Anghofiedig
Mae’r “UK National Inventory of War Memorials” yn cydnabod bron i dri chant o gofebion rhyfel ym Mhowys. Ond, credir bod y gwir nifer yn sylweddol uwch, gyda chofebion yn cymryd ffurf croesau, placiau, pontydd neu hyd yn oed organau eglwysi. Fe fydd y prosiect hwn yn caniatáu cymunedau i ddarganfod cofebion lleol eu hunain a chefnogi cread ‘map cofebion’ at gyfer holl gofebion Powys, gan greu bas data o’u hanes, cyflwr a pherchnogaeth.
Dywedodd Cyng. Avril York, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Adfywio a Chynllunio: “Mae’r prosiect hwn yn arwydd o’n parch tuag at yr unigolion hynny wnaeth adael Powys gan aberthu eu bywydau. Mae treftadaeth Rhyfel Byd Cyntaf y sir mewn perygl ac yn yr un modd nad ydym yn gallu anghofio erchyllter y rhyfel, na chwaith gallem anghofio ein cofebion rhyfel. Mae’r grant hwn yn cynnig cyfle i Bowys gofio ac i sicrhau bod y cofebion hyn wedi’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Pecyn Cadwraeth
Fe fydd pecynnau cymorth sydd wedi eu creu fel rhan o’r prosiect yn cynnwys gwybodaeth gefndirol a ffynonellau am y Rhyfel Byd Cyntaf ynghyd a llawlyfrau ar sut i ymchwilio eich hanes lleol a chanllawiau sylfaenol ar sut i warchod cofebion rhyfel. Fe fydd y rhain wedi’u cefnogi gan Becynnau Cadwraeth i helpu pobl hyfforddedig, leol chwarae rhan allweddol yng ngwarchodaeth a chadwraeth cofebion.
Dywedodd Cyllene Griffiths, Swyddog Cofebion Rhyfel Cyngor Sir Powys: “Mae cofebion yn rhan annatod o’n trefi, pentrefi a chymunedau ac yn cynnig canolbwynt at gyfer coffau. Fe fydd y prosiect hwn yn caniatáu i ni ddiogelu nhw ac i gymunedau ymgymryd â’u gorffennol.”