Ddiwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf
18 / 02 / 2015Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn fawr i’r rheini a wnaeth fynychu a chyfrannu at Ddiwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhaliwyd ar y cyd â’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol ar 22 a 23 Ionawr yn Llandudno a Chaerdydd.
Mae’r adborth sydd wedi dod i law hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol wedi creu dogfen Canfyddiadau Allweddol o’r ddau leoliad ac mae’r rhain ar gael ar wefan Partneriaeth yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol. Byddwn hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau tebyg y flwyddyn nesaf.
Caiff gwefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ei rheoli gan Gasgliad y Werin Cymru, ac mae’n darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau a newyddion ac am weithgareddau a gynhelir yng Nghymru. Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, bydd y wefan yn dangos sut bydd pobl Cymru’n coffáu’r canmlwyddiant pwysig hwn yng Nghymru a thu hwnt drwy gyhoeddi gwybodaeth a geir gan unigolion, cymunedau a sefydliadau. Mae cyfrifon Twitter a Facebook hefyd wedi’u creu.
Gweler isod am wybodaeth ynghylch rhai o’r pynciau a drafodwyd yn y digwyddiadau, gan gynnwys y cyllid grant i ysgolion uwchradd ar gyfer gweithgareddau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, a grantiau Cadw ar gyfer cofebau rhyfel. Ceir hefyd ddolen i’r dudalen Partneriaid sy’n cynnwys manylion nifer o’r sefydliadau a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau.
Dolenni defnyddiol:
Cyllid grant i ysgolion uwchradd ar gyfer gweithgareddau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf:
Grantiau ar gyfer cofebau rhyfel
Partneriaid Cymru’ n Cofio Wales Remembers 1914 -1918
Gwefan Partneriaeth yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
Ceir lluniau o’r Diwrnodau Partneriaeth ar ein tudalen Facebook.