Archif digidol o’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi’i enwebu ar gyfer gwobr
26 / 02 / 2015Mae archif ddigidol o’r Profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei enwebu ar gyfer gwobr dyniaethau digidol rhyngwladol.
Fe lansiwyd Cymru1914.org, sydd ar gael i bawb am ddim, yn Nhachwedd 2013. Mae’n dod ynghyd archifau a chasgliadau arbennig Cymru sy’n ymwneud ag effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru: mae cofnodion tribiwnlys, archifau Corfflu Byddin Cymru a sefydlwyd gan Lloyd George, a llawysgrifau’r beirdd rhyfel Cymreig, gan gynnwys Hedd Wyn a David Jones, yn ffurfio rhan o’r casgliad sylweddol o 220,000 o eitemau digidol, nifer ohonynt yn perthyn i hanesion anhysbys y Rhyfel.
Mae’r archif wedi’i enwebu am Wobr y Dyniaethau Digidol yng nghategori “y defnydd orau o Ddyniaethau Digidol ar gyfer Ymgysylltu Cyhoeddus” (The Digital Humanities Award for “best use of Digital Humanities for Public Engagement”). Menter ryngwladol yw gwobrau’r Dyniaethau Digidol i adnabod rhagoriaeth yn y dyniaethau digidol. Mae enwebiad Cymru1914.org yn cydnabod ei ddefnydd gan gynulleidfaoedd eang ac amrywiol, ynghyd â’i ddefnydd ar gyfer pwrpasau coffâd ac addysg. Dywedodd y Llyfrgellydd a Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dr. Aled Gruffydd Jones, “Yr ydym yn falch iawn i dderbyn yr enwebiad hwn, sy’n cydnabod yr agweddau o ymgysylltu cymunedol yn y cydweithrediad pwysig yma yn enwedig o ran darpariaeth cynnwys gan gymunedau a sefydliadau lleol. Mae hyn yn enwedig o foddhaol i’r Llyfrgell Genedlaethol gan fod ein strategaeth newydd, Gwybodaeth i Bawb, yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu cymunedol yn ein hetifeddiaeth ddogfennol.”
Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Yr Athro Lorna Hughes (sydd bellach yn Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain): “Ers y lansiad mae Cymru1914.org wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer ymchwil, addysg, ac ymgysylltu cymunedol, ac mae’r enwebiad yn cydnabod yr effaith yma. Defnyddiwyd delweddau o recriwtiaid a milwyr gorfod anhysbys o’r archif ddigidol fel rhan o osodiad sain a fideo yr artist Bedwyr Williams, Traw, a gyflwynwyd ar safle bwa coffaol Gogledd Cymru ym Mangor yn Awst 2014. Mae’r archif ddigidol hefyd yn helpu plant ysgol i ddatblygu sgiliau digidol a llythrennedd fel rhan o brosiect Cymru yn y Rhyfel (walesatwar.org)”.
Datblygwyd y casgliad digidol diolch i grant o £500,000 gan Jisc, noddwyr isadeiledd ac adnoddau digidol ym Mhrydain, a nawdd gan Lywodraeth Cymru. Arweiniwyd y prosiect gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, archifau lleol Conwy, Sir Y Fflint, Morgannwg, a Gwent, Archif BBC Cymru Wales, a chynnwys cymunedol a ddatblygwyd gan Gasgliad y Werin Cymru.
Mae’r wobr hefyd yn cydnabod gwaith caled yr amryw o bobol wnaeth helpu i ddatblygu’r adnodd: staff y sefydliadau partner, a staff casgliadau, systemau a TG y Llyfrgell. Diolch i’w mewnbwn nhw, lansiwyd yr adnodd ar amser ac o fewn cyllideb.
Mae pleidleisio ar gyfer gwobrau’r Dyniaethau Digidol yn cau ar yr 28ain o Chwefror. I bleidleisio ewch i : http://dhawards.org/dhawards2014/voting/