NEWYDDION

Rhaglen 2015 ar gyfer Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918

16 / 04 / 2015

PROGRAMME 2015 - FRONT COVER - CYMDyma lyfryn Rhaglen 2015 ar gyfer Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, yr ail yn y gyfres flynyddol. Mae’r llyfryn yn cynnwys manylion y digwyddiadau y’u cynhelir yng Nghymru i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir y tu hwnt i Glawdd Offa os byddant yn berthnasol i Gymru. Mae hefyd yn cynnwys erthyglau trwyadl a ysgrifennwyd gan sefydliadau partner sy’n datblygu digwyddiadau a phrosiectau coffa.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae sefydliadau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y cofio ers dechrau’r Rhaglen Genedlaethol fis Awst 2014, ac rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn parhau yn 2015 a thu hwnt. Hoffwn eich hannog i ddarllen drwy’r llyfryn hwn i gael gwybod sut y mae sefydliadau yng Nghymru eisoes wedi cymryd rhan ac i gael gwybod rhagor am ffyrdd y gall eich sefydliad gymryd rhan bellach yng ngweddill y rhaglen i gofio’r canmlwyddiant.

© Llywodraeth Cymru / © Welsh Government

© Llywodraeth Cymru / © Welsh Government

Hyderwn y byddwch yn canfod y llyfryn Rhaglen 2015 yn ddiddorol ac y byddwch yn dysgu llawer o’i ddarllen. Rydyn yn eich hannog i ymweld â gwefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a’n cyfryngau cymdeithasol (Trydar: @CymrunCofio a Gweplyfr: Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918) i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a phrosiectau a gynhelir yng Nghymru i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r newyddion diweddaraf am y cofio. Hoffwn hefyd eich hannog chi i roi gwybod inni drwy wefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 os ydych yn trefnu unrhyw ddigwyddiadau neu brosiectau coffa.

Bydd copïau caled o’r Rhaglen 2015 yn cael eu hanfon i sefydliadau ar draws Cymru drwy gydol mis Ebrill.