Grantiau ar gyfer Cofebion Rhyfel
23 / 04 / 2015Lansiwyd cynllun newydd i ddiogelu cofebau rhyfel Cymru ym mis Mawrth 2014.
Mae o leiaf 3,000 o gofebau rhyfel yn hysbys yng Nghymru, bob un yn adrodd stori am fywydau a gollwyd a theuluoedd a chymunedau a chwalwyd gan effeithiau rhyfel. Maen nhw’n dal yn ganolbwynt o ran coffâd ac mae’n hanfodol eu cadw a gofalu amdanyn nhw er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu cof y rhai a roddodd eu bywydau wrth wasanaethu eu gwlad.

© Hawlfraint y Goron CBHC / © Crown Copyright RCAHMW
Mae’r rhaglen gadwraeth, o dan arweiniad Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn werth £400,000 a’r nod yw gofalu am gofebau rhyfel leded Cymru.
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Cofebau Rhyfel, a bydd yn helpu i ddiogelu cofebau i’r cenedlaethau sydd i ddod, ac mae grantiau o hyd at 70% o’r costau cymwys (hyd at uchafswm o £10,000) ar gael at waith cadw a thrwsio.
Gall pawb chwarae rhan i ofalu am gofebau rhyfel ac mae Cadw ac Ymddiriedolaeth y Cofebau Rhyfel yn annog grwpiau gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned i gymryd rhan.
I helpu i sicrhau bod pobl yn gwybod y ffordd orau i ofalu am eu cofeb ryfel leol, mae Cadw wedi llunio Gofalu am Gofebau Rhyfel yng Nghymru, sy’n esbonio’u harwyddocâd a sut i greu cynllun cynnal-a-chadw. Mae canllawiau technegol ar gael hefyd ar wefan Cadw, sy’n cynnig cyngor manylach am gadwraeth a sut i ofalu am gofebau rhyfel a phryd i ofyn am gymorth arbenigol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac i lawrlwytho’r ffurflen i wneud cais am grant a’r canllawiau, ewch i ein dudalen ar Grantiau ar Gyfer Cofebion Rhyfel neu cysylltwch â Cadw ar 01443 336000.
Mae’r cynllun yn rhan o Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, sef y rhaglen i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf o dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol ledled Cymru.
Gwefan UK War Memorials
Datblygwyd UK War Memorials i ddarparu mynediad hawdd i beth mae sefydliadau arbenigol yn ei wybod am gofebion rhyfel ac i gyrchu cyngor arbenigol ar sut orau i’w diogelu. Mae hyn yn cynnwys sut i gael grantiau cadwraeth a sut i restru cofebion.
Bydd y wefan yn ehangu fesul cam yn ystod y pedair blynedd nesaf. Felly, erbyn diwedd y prosiect bydd hi’n hawdd chwilio ukwarmemorials.org (Gwefan ar gael yn Saesneg yn unig), a bydd yn rhoi cymorth i bobl sy’n ceisio darganfod gwybodaeth hanesyddol, statws rhestredig, cyflwr ac enwau arysgrifenedig.