NEWYDDION

Nac anghofiwn: annog cymunedau i wneud cais am grant i ddiogelu eu cofeb ryfel

28 / 04 / 2015

Mae cymunedau ledled Cymru yn cael eu hannog i fanteisio ar grantiau arbennig a gynigir gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio a diogelu cofebion rhyfel cymunedol fel rhan o weithgareddau cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r grantiau hyn yn rhoi’r cyfle i gymunedau wneud cais am hyd at 70% o’r costau cymwys (hyd at uchafswm o £10,000) ar gyfer diogelu pob math o gofebion rhyfel.

Mae cofebion rhyfel i’w gweld mewn llu o gymunedau ledled Cymru. Gan amrywio o fod yn strwythurau coffa i osodiadau mewn eglwysi a chapeli, maen nhw’n dal i fod yn ganolbwynt i’n gwasanaethau coffa.

© Llywodraeth Cymru / © Welsh Government

© Llywodraeth Cymru / © Welsh Government

Heddiw, aeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, i weld cofeb ryfel Llanilltud Fawr, sydd wedi elwa’n ddiweddar o gael grant i wneud ei llythrennau’n gliriach ac yn haws eu darllen.

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae tua 4,000 o gofebion rhyfel yn ein cymunedau ledled Cymru – pob un ohonyn nhw’n dyst i hanes o golli bywydau a’r difrod a wnaeth y rhyfel i deuluoedd a chymunedau. Mae’r cofebion hyn yn symbol o ba mor bwysig yw cofio.

“Roedd y gefnogaeth a welwyd ar ddechrau’r gweithgareddau i gofio’r canmlwyddiant yn dangos bod pobl yn dal i gredu’n gryf bod angen inni barhau i gofio  cyfnod tyngedfennol a newidiodd ein hanes am byth. Hoffwn annog cymunedau i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiogelu ein cofebion rhyfel unigryw er mwyn i’r cofebion hynny barhau i atgoffa cenedlaethau’r dyfodol am yr aberth a wnaed i sicrhau ein rhyddid.”

Cafodd y cynllun grantiau hwn ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, ac mae’n cael ei weinyddu gan Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae’n gysylltiedig â rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-18, sydd, mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill, yn arwain y gweithgareddau coffáu yma yng Nghymru.

Mae’r manylion ymgeisio ar gyfer un o’r grantiau hyn ar gael yn

http://cadw.gov.wales/historicenvironment/help-advice-and-grants/grants/grantsforwarmemorials/?skip=1&lang=cy

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau a phrosiectau coffáu ledled Cymru, sydd eisoes wedi’u cynnal ac sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol, i’w gweld yn llyfryn blynyddol Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 -1918, sef Rhaglen 2015, a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar (https://www.cymruncofio.org/1915-1918-programme/) a hefyd yn https://www.cymruncofio.org/.