NEWYDDION

MENTER IAITH CONWY YN DECHRAU PROSIECT NEWYDD – CONWY A’R RHYFEL MAWR

12 / 06 / 2015

HLFmenter iaith conwyProsiect dwy flynedd a ariannir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yw ‘Conwy a’r Rhyfel Mawr” bydd yn canolbwyntio ar sut cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith ar yr Iaith Gymraeg a chymunedau yng Nghonwy. Nod y prosiect yw i greu arddangosfa symudol yn dangos sut effeithiodd y Rhyfel ar Gonwy. Mi fydd y prosiect yn canolbwyntio ar yr effaith gafodd y Rhyfel a’r ferched, cymdeithas, diwylliant ac economi Sir Conwy.

“Drwy dargedu ardaloedd Rowen, Cerrigydrudion, Llanrwst a Llandudno, byddwn yn olrhain hanes 4 teulu o’r trefi a phentrefi canlynol a mesur effaith cymdeithasol a gafodd yr Rhyfel ar y teuluoedd.”

“Dan ni’n gobeithio defnyddio peth gwaith ymchwil blaenorol i gwblhau’r arddangosfa, ond rydym mwy na dim yn edrych ymlaen i gydweithio â’r cymunedau. Ein nod ydy i gofio am y dynion, merched a theuluoedd am bwy oedden nhw go iawn a’u haberth yn y Rhyfel”
Swyddog Prosiect, Ceri Phillips.

Bydd yr arddangosfa symudol, yn cynnwys ffilm, llyfryn ac arddangosfa ‘pop up’ yn esbonio’r dreftadaeth a’r prosiect i bawb yng Nghonwy. Mi fydd llwyddiant yr arddangosfa yn ddibynnol ar gydweithio yn agos â gwirfoddolwyr, ysgolion ac cymunedau. Ceir cyfle iddynt hefyd ennill achrediad a derbyn hyfforddiant hel achau a hanes llafar.

Os ydych yn awyddus i rannu rhai o hanesion eich teuluoedd chi am y Rhyfel Mawr, neu os wyddoch chi am gymdeithasau hanes a fyddai’n awyddus i dderbyn hyfforddiant neu fod yn rhan o’r prosiect, cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, Ceri Phillips, ceri@miconwy.org, 01492 642 357.