Grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiectau Rhyfel Byd Cyntaf
15 / 06 / 2015Gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae miloedd o gymunedau ar draws y DU yn dod i wybod am y Rhyfel Byd Cyntaf a sut y gwnaeth lunio’r byd rydym yn byw ynddo.
Mae ystod anhygoel o straeon yn cael eu darganfod, o gartwnau papur newydd yng Nghaerdydd, i ffatrïoedd arfau yn Sir Benfro, i Bataliwn Ffrindiau yng Ngogledd Cymru. Mae prosiectau yn cael eu harwain gan gymdeithasau trigolion, grwpiau hanes lleol, clybiau ieuenctid grwpiau anabledd a ffydd, Canghennau Lleng Brydeinig Frenhinol a mwy. Mae prosiectau yn galluogi amrywiaeth eang o bobl i gymryd rhan yn y Canmlwyddiant.
Arian ar gael
Bydd CDL yn ariannu prosiectau Rhyfel Byd Cyntaf ar hyd y Canmlwyddiant. Mae grantiau ar gael o £3,000 a throsodd ac rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau nad ydynt erioed wedi gwneud cais o’r blaen, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes wedi gwneud prosiect.
Rydym yn arbennig o awyddus i weld prosiectau sy’n edrych ar y rhyfel o bersbectif newydd, gan helpu i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’i effeithiau.
Gallwch wneud cais fwy nag unwaith
Rydym yn hapus i weld cymunedau yn gwneud cais am gyllid fwy nag unwaith yn ystod y Canmlwyddiant.
Dewisodd nifer o grwpiau i wneud prosiectau i nodi Canmlwyddiant cychwyn y rhyfel ym mis Awst 2014, gyda llawer yn edrych ar effeithiau lleol y rhyfel. Rydym yn annog y grwpiau hyn i feddwl am yr hyn yr hoffent ei wneud nesaf.
Darganfod mwy a gwneud cais am gyllid
Os oes gennych syniad am brosiect, dywedwch wrth CDL amdano!
I gael eich ysbrydoli gan y prosiectau yr ydym eisoes wedi eu hariannu ewch i’n tudalennau gwe Rhyfel Byd Cyntaf i gael gwybod mwy am beth sydd ar gael.
Y rhaglen grantiau gyda’r ffurflen gais symlaf a chyfradd llwyddiant uchaf yw Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw.