Ymweliad Hanesyddol gan Brif Weinidog Cymru â’r Ysgwrn
13 / 07 / 2015Cafodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones groeso cynnes iawn ar aelwyd Yr Ysgwrn ddoe, pan ddaeth i weld y cynlluniau ar gyfer dyfodol y cartref hynod hwn.
Ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 9fed) bu i Brif Weinidog Cymru ymweld â’r Ysgwrn, un o gartrefi enwocaf Cymru. Mae’r ymweliad hwn yn cofnodi cyfnod newydd yn hanes Yr Ysgwrn, wrth i waith gwarchod a datblygu’r safle ddechrau ar ddiwedd yr haf. Yn ystod yr ymweliad, bu’r Prif Weinidog yn sgwrsio gyda nai Hedd Wyn, Mr Gerald Williams, sy’n parhau i groesawu ymwelwyr i’r cartref hynod hwn. Cafodd y Prif Weinidog hefyd gyfle i drafod datblygiad Yr Ysgwrn gyda’r swyddogion prosiect ac i weld rhai o’r cynlluniau sydd ar y gweill.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Mae’n addas fy mod wedi medru ymweld â’r Ysgwrn ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, cartref y bardd enwog, Hedd Wyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwarchod ein adeiladau eiconig ar gyfer cenedlaethol dyfodol, a dyna pam ein bod wedi gweithredu i gadw’r safle hwn sy’n rhan pwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.”
Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, y Cynghorydd Caerwyn Roberts:
“Bydd ddatblygiad Yr Ysgwrn yn darparu cofeb parhaus a haeddianol i Hedd Wyn a chenhedlaeth gyfan o Gymry a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n briodol ac yn ingol bod y Prif Weinidog yn ymweld â ni heddiw ac mae diolch yr Awdurdod i’r Prif Weithredwr am ei ymrwymiad personol i brosiect Yr Ysgwrn, yn fawr”.
Rhai o’r prif newidiadau fydd:
- Agor y ffermdy i’r cyhoedd, gan gynnwys y bwtri a’r llofftydd gan ganolbwyntio ar ddehongli bywyd a gwaith Hedd Wyn yn yr ystafelloedd hyn.
- Trosi Beudy Llwyd yn adeilad croeso fydd yn cynnwys derbynfa, caffi, ystafell addysg, ystafell ymchwil ac arddangosfa.
- Adfer Beudy Tŷ i gynnwys dehongli drwy ffilm am y Rhyfel Byd Cyntaf, bywyd yng nghefn gwlad a diwylliant y cyfnod, ynghyd ag addasu’r adeilad i fedru cynnal digwyddiadau.
- Troi’r cwt mochyn yn dŷ i Ystlumod.
- Dymchwel y sied amaeth bresennol a chodi sied newydd, amgylcheddol gyfeillgar (gyda tho o laswellt) yn ei le.
- Yn ogystal, bydd safle penodol i barcio ceir ymwelwyr a bydd boiler biomas yn cael ei adeiladu drws nesaf i’r cwt mochyn.
Bydd y gwaith sylweddol o ddatblygu’r Ysgwrn yn dechrau ar ddiwedd yr haf ac yn parhau hyd wanwyn 2017. Bydd Yr Ysgwrn ayn agored fel arfer drwy apwyntiad gydol yr haf a’r hydref ond ni fydd yn agored i’r cyhoedd o ddiwedd y flwyddyn. Y bwriad yw cynnal diwrnodau agored ar agweddau arbennig o’r gwaith yn ystod y cyfnod datblygu. Yn ogystal, bydd yr arddangosfa dros dro Yr Ysgwrn yn cael ei lleoli ym Mhlas Tan y Bwlch (tua 7 milltir i ffwrdd) ac yn cynnwys replica o’r Gadair Ddu.