Darganfod Etifeddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhenbre
14 / 07 / 2015Cronfa Treftadaeth y Loteri yn rhoi £10,000 i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi derbyn £10000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL)ar gyfer prosiect, Darganfod Etifeddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhenbre. Mae’r prosiect a ddyfarnwyd trwy raglen yr adeg honno ac yn awr CTL yn canolbwyntio ar y ffatri arfau Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhenbre, Sir Gaerfyrddin.
I nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a gyda chefnogaeth Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a Chyngor Sir Gaerfyrddin, bydd y prosiect yn galluogi gwirfoddolwyr lleol i ymchwilio a chofnodi’r olion archaeolegol o fewn Parc Gwledig Penbre a magu dealltwriaeth o arwyddocâd y safle. Defnyddir canlyniadau’r ymchwil i greu taflen llwybr newydd ac arddangosfa symudol. Caiff plant ysgol lleol gyfle i ddarganfod hanes y safle a datblygir adnoddau addysgol at ddefnydd yr ysgolion.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Ffatri Arfau Penbre yn cyflogi dros 1000 o bobl o’r ardal leol, Abertawe a Chaerfyrddin a llawer ohonynt yn ferched. Ar ôl cau yn ystod y 1920au ailddatblygwyd y safle fel Ffatri Ordnans yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar hyn o bryd bach yw’r ddealltwriaeth o’r strwythurau ar y safle, fodd bynnag bydd ymchwil pellach yn help i ddehongli’r olion a gyda chymorth broffesiynol, cofnodir y wybodaeth a’i chyflwyno’n gyhoeddus trwy daflen llwybr ac arddangosfa.
Dywedodd Alice Pyper am y wobr: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn cefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, a fydd gyda chyllid gan Cadw a chefnogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin yn galluogi mwy o bobl i ddeall yr archaeoleg o fewn Parc Gwledig Penbre ac yn adrodd stori’r hyn a ddigwyddodd yma yn ystod yr ugeinfed ganrif”
Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Ken Skates:
“Rwy’n falch iawn bod CTL wedi cytuno i gefnogi’r prosiect diddorol hwn a’n bod ni, trwy Cadw, wedi gallu rhoi’n cefnogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn falch i arwain rhaglen ddigwyddiadau Cymru i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Rwy’n arbennig o falch trwy’r fath brosiectau bod pobl ifanc yn cael y cyfle gyda phrofiad ymarferol fydd yn gymorth i’w dysgu a’n hatgoffa’n barhaol o’r cyfnod pwysig hwn yn ein hanes.”