Y Prif Weinidog i agor arddangosfa Gallipoli ym Mhenmaen-mawr
10 / 08 / 2015Heddiw bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn agor arddangosfa’r Cymry yn Gallipoli yn ffurfiol. Mae’r arddangosfa’n rhan o Raglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.
Mae’r arddangosfa, a leolir yn gyntaf ynn Nghanolfan Gymuned Maen Alaw cyn symud ymlaen at Amgueddfa Penmaen-mawr ar 12 Awst, wedi cael ei datblygu gan Mrs Anne Pedley, un o ymddiriedolwyr Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae’n adrodd hanes y Cymry yn Gallipoli ac effaith y gwrthdrawiad ar fywyd yng Nghymru a’i chymunedau.
Canolbwynt yr arddangosfa yw hanes Chwarelwyr Penmaen-mawr a oedd yn rhan o’r ymgyrch ac a oedd yn rhan o fataliwn ‘Pals’ a laniodd yn Suvla Bay. Wrth i’r arddangosfa deithio bydd hefyd yn adrodd hanesion dynion o rannau eraill o Gymru a fu’n ymladd yn Gallipoli.
Bydd elfennau craidd yr arddangosfa’n cynnwys paneli teithio dwyieithog, deunyddiau digidol ategol sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru, llyfryn coffa a deunyddiau addysgol.
Ar ôl i’r arddangosfa fod ym Mhenmaen-mawr rhwng 10 Awst ac 11 Medi, bydd yn symud ymlaen at Dŷ Ladywell yn y Drenewydd (15 Medi – 8 Hydref), Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth (13 Hydref – 3 Tachwedd), Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu (6 Tachwedd – 29 Tachwedd), Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd (7 Rhagfyr – 20 Ionawr) cyn dod i ben yn Neuadd Gregynog, Sir Drefaldwyn (25 Ionawr – 26 Chwefror).
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Anrhydedd mawr yw cael lansio’r arddangosfa hynod o ddiddorol a hanesyddol hon.
“Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle pwysig inni fyfyrio ar gost rhyfel, ac i gofio aberth a dewrder pawb, gan gynnwys y rhai a fu’n rhan o Ymgyrch Gallipoli.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o greu’r arddangosfa hon, Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac yn enwedig Mrs Anne Pedley, am eu holl ymchwil a gwaith caled wrth greu’r casgliad ardderchog hwn o waith.”
Cyn i’r arddangosfa gael ei lansio, byd y Prif Weinidog hefyd yn mynychu Gwasanaeth Coffa byr yn y Neuadd Ymarfer yn ymyl Canolfan Gymuned Maen Alaw ac yn gosod torch i goffáu Chwarelwyr Penmaen-mawr a phawb a fu farw yn Gallipoli.
Cynhyrchwyd llyfryn gwaddol fel rhan o’r prosiect y Cymry yn Gallipoli a gellir ei weld yma: