NEWYDDION

Galwad am ddigwyddiadau ar gyfer Rhaglen 2016

04 / 09 / 2015

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Rhaglen 2016 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ac yn apelio am ddigwyddiadau a lluniau y gellir eu defnyddio.

Rhaglen 2016 fydd y diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau blynyddol sy’n rhoi manylion digwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru neu ymhellach i ffwrdd ond sydd â chysylltiad Cymreig. Mae’r rhaglenni blynyddol hefyd yn cynnwys erthyglau sylweddol am wahanol brosiectau coffa a gynhaliwyd eisoes, sy’n digwydd ar hyn o bryd ac sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol.

I weld y cyhoeddiadau diweddaraf, cliciwch ar Rhaglen 2014 a Rhaglen 2015.

Digwyddiadau

Mae digwyddiadau coffa yn cael eu cynnal ledled Cymru a thu hwnt. Os hoffech i’ch digwyddiad chi gael ei ystyried ar gyfer Rhaglen 2016, ychwanegwch ef at wefan ein Rhaglen [https://www.cymruncofio.org/events/], drwy ddefnyddio’r ffurflen electronig.

A fyddech cystal ag ychwanegu eich digwyddiadau ar gyfer 2016 at y wefan erbyn 1 Rhagfyr 2015 er mwyn rhoi amser i ddigwyddiadau a gyflwynwyd gael eu hystyried a’u prosesu ar gyfer Rhaglen 2016.

Lluniau

Hoffem gynnwys lluniau diddorol sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Rhaglen 2016, yn enwedig y rheiny sydd â chysylltiad Cymreig. Bydd angen ichi fod yn berchen ar hawlfraint y lluniau a bod yn barod i roi caniatâd i Lywodraeth Cymru a Chasgliad y Werin (sy’n rheoli gwefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918) gael defnyddio eich lluniau. Dim ond yng nghyd-destun Rhaglen Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf y caiff y lluniau eu defnyddio ac, os cawn eich caniatâd, gallem eu cynnwys mewn cyhoeddiadau eraill neu ar gyfryngau cymdeithasol. Nodwch unrhyw gyfyngiadau neu amodau mewn perthynas â’r lluniau a gyflwynwch, ac os oes modd rhowch ddisgrifiad byr o natur y llun. Ni allwn eich talu’n ariannol am eu darparu. Byddem yn enwi perchennog y llun wrth ei ddefnyddio. Anfonwch eich lluniau drwy e-bost i cymruncofio-walesremembers1914-1918@Wales.GSI.Gov.UK.

A fyddech chi a’ch sefydliadau cystal â rhannu’r wybodaeth hon gyda’ch cysylltiadau a’r rheiny sydd â chysylltiadau â threfniadau coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy eich gwefannau a chyfryngau cymdeithasol.