Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy yn Ennill Cefnogaeth Treftadaeth y Loteri
06 / 10 / 2015Mae Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy wedi derbyn £ 21,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer prosiect heriol i archwilio rôl Sgowtiaid Eryri ac Ynys Môn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y Sgowtiaid Anturus sydd rhwng 14 i 18 mlwydd oed, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Threftadaeth Menai ar Brosiect Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ‘Gwreiddiau Ifanc’.
“Cafodd ein Grŵp Sgowtiaid ei sefydlu ym 1909, er ei fod ar gau dros dro yn 1916 gan fod Meistr y Sgowtiaid wedi mynd i ryfel. Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri, a 100 mlynedd yn ddiweddarach, nawr yw’r amser i ddysgu am ein treftadaeth” meddai Stephen Mudge, Arweinydd y Prosiect ac Arweinydd Sgowtiaid Anturus, Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy.
Pwrpas Cymdeithas y Sgowtiaid yw i ymgysylltu a chefnogi pobl ifanc yn eu datblygiad personol, a’u galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas. Mae Grŵp Porthaethwy yn grŵp bywiog ac anturiaethus gyda 20 o Sgowtiaid Anturus yn rhan o 90 aelod ar draws ystod oedran 6 i 18 mlwydd oed. Maent yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n eu cynorthwyo i gyflawni rhaglen lawn o weithgareddau mentrus y Sgowtiaid.
Wrth sôn am y wobr, dywedodd Ben Quinney, Sgowt 14-mlwydd-oed,: “Roedd yn ddiddorol darganfod bod John Fox Russell, un o Sgowtiaid Sir Fôn o Gaergybi, wedi derbyn y Groes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond ymddengys nad yw’r Archifau Sgowtiaid Cenedlaethol yn ymwybodol o hyn eto. Byddwn yn dysgu llawer mwy am hanes a threftadaeth y gymuned Sgowtiaid bron i 100 mlynedd yn ôl. Mae’n wych meddwl y bydd cenedlaethau o Sgowtiaid i’r dyfodol yn elwa ar ein gwaith ymchwil a’n darganfyddiadau oherwydd cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri. ”
Wrth esbonio pwysigrwydd y dyfarniad, dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nhymru: “Rydym yn awyddus i gynorthwyo cymaint o gymunedau a phobl ag sy’n bosibl ar draws Cymru i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf ac i gydnabod yr effaith hir-barhaol a gafodd y gwrthdaro ar ein cymunedau. Mae’n arbennig o bwysig i bobl ifanc ddysgu am eu gorffennol ac i fod yn ddiolchgar am arian chwaraewyr y Loteri. Mae grŵp y Sgowtiaid yma yn cael cyfle i gyflwyno eu prosiect treftadaeth eu hunain, gan ddatblygu ystod o sgiliau newydd a rhannu’r hanes bwysig o’r modd y cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith ar eu grŵp Sgowtiaid yn eu hardal leol.”
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn cynnwys datblygu sgiliau ymchwil, cofnodi canfyddiadau, adeiladu archif, ffotograffiaeth, fideograffeg, creu arddangosfeydd a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth. Gan weithio gyda Treftadaeth Menai, Archifwyr Ardal Sgowtiaid lleol, haneswyr lleol, Gwasanaeth Archifau Ynys Môn, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chasgliad Treftadaeth Cymdeithas y Sgowtiaid, mae nifer o anturiaethau ymchwil wedi eu cynllunio. Bydd y Sgowtiaid hefyd yn gweithio tuag at nifer o wahanol fathodynnau o fewn y rhaglen bathodyn Sgowtiaid a bydd y prosiect yn cyfrannu tuag at Wobr y Frenhines Sgowtiaid a Gwobr Dug Caeredin.
Am fwy o wybodaeth, i ymuno gyda’r Sgowtiaid, gwirfoddoli neu i gynnig cymorth, cysylltwch â Jo Quinney, Arweinydd Grŵp y Sgowtiaid, drwy e-bostio scouts@qmpr.co.uk.
Llun: Sgowtiaid ym Mhorthaethwy 15fed o Fehefin
Sgowtiaid 1af Porthaethwy ar Bont Menai
(De i’r Chwith) Niall, Davey, Jack Q, Jack B, Lucy, Stephen, Harry, Emma Iona a Ben