Keir Hardie: Myfyrdod Canmlwyddiant
14 / 10 / 2015Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn eich gwahodd i ymuno â hi a
chroesawu yr Athro Syr Deian Hopkin, Cynghorydd arbenigol ar
gyfer Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918, i’r Senedd
ar gyfer yr ail ddarlith flynyddol i ddathlu can mlynedd ers y
Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn y ddarlith hon, bydd Syr Deian yn trafod canrif o ddylanwad
Keir Hardy. Mae strydoedd, canolfannau cymdeithasol, ysgolion
a hyd yn oed ganolfannau iechyd yn dwyn ei enw. Yn ddiweddar
iawn, mae diddordeb newydd yn ei neges wleidyddol, ei ddadlau
dros achosion amhoblogaidd, ei ymgyrchu di-baid a’i ddefnydd
effeithiol o gyfryngau ac, yn anad dim, ei benderfyniad i
ymwrthod â gwleidyddiaeth gonfensiynol ei oes. Pam hynny?
Ac ai hwnnw yw’r gwir Keir Hardie?
Y digwyddiad hwn hefyd yw agoriad swyddogol arddangosfa
goffa Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn Cofio. Dewch ar ymweliad preifat, tywysedig i weld
yr arddangosfa hon a dysgu am filwyr a’u teuluoedd wrth i’w
disgynyddion, ynghyd ag Aelodau’r Cynulliad a staff y Comisiwn,
adrodd eu hanesion cudd.
Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru hefyd yn lansio ei
theclyn trawsgrifio ar gyfer y Llyfr Coffa Cenedlaethol. Mae hyn
yn gyfle unigryw i weld y llyfr arbennig a defnyddio’r teclyn am y
tro cyntaf.
Bydd derbyniad gwin a chanapes yn dilyn y digwyddiad hwn.
Cofiwch roi gwybod am unrhyw ofynion deietegol.
Atebwch erbyn: dydd Gwener 6 Tachwedd 2015
ebost: cysylltu@cynulliad.cymru
ffôn: 0300 200 6565