NEWYDDION

Diwrnod Partneriaeth 2016

26 / 10 / 2015

 

 

 

 

Diwrnod Partneriaeth 2016
28 Ionawr 2016
10:00-16:15

Yn dilyn llwyddiant Diwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015, bydd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, a Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a arweinir gan yr Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth, yn cynnal Diwrnod Partneriaeth 2016 ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 28 Ionawr 2016.

Nod y digwyddiad fydd:

  • Rhoi trosolwg o’r cynlluniau cenedlaethol i nodi’r canmlwyddiant yn 2016
  • Rhannu cyfleoedd allweddol gan gynnwys adnoddau newydd a Blwyddyn y Ffilm
  • Ysbrydoli prosiectau a gwaith partneriaeth ar gyfer 2016 a thu hwnt
  • Rhoi trosolwg o’r gweithgareddau sydd wrthi’n cael eu trefnu ar draws Cymru i nodi’r canmlwyddiant.

Ceir adolygiad o’r digwyddiadau a gynhaliwyd y llynedd yma.

Hoffai Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf wahodd sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ar brosiectau mawr neu bach yn ymwneud â chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, i’r digwyddiad ar 28 Ionawr 2016.

I gadw lle e-bostiwch extranet1914@iwm.org.uk gan nodi eich enw, eich sefydliad ac unrhyw anghenion deietegol neu o ran mynediad. Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin, a bydd lle i 3 cynrychiolydd o bob sefydliad.

Agenda fras ar gyfer y diwrnod:

10:00 :  Cofrestru

10:30 :   Croeso a lansiad Rhaglen 2016 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918

11:00 :   Cyflwyniadau gan sefydliadau amrywiol sy’n gweithio ar brosiectau’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru (darperir rhagor o wybodaeth yn ddiweddarach)

12:30 :   Cinio / rhwydweithio

13:30 :   Trafodaethau grŵp ynghylch cynlluniau a syniadau ar gyfer digwyddiadau coffa 2016

14:45 :   Crynodeb o’r digwyddiadau a sesiwn agored

15:00 :   Dangosiad o’r ffilm ‘Battle of the Somme’ (1916)

16:15  :  Diwedd

I nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae dros 3,400 o sefydliadau o 57 gwlad wedi ymuno â Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a arweinir gan Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth, gan gynnal miloedd o weithgareddau coffa addysgol ar gyfer y cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i www.1914.org/partnership.

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru a thu hwnt: https://www.cymruncofio.org.

Dylech nodi y bydd enwau a chyfeiriadau e-bost y cynrychiolwyr yn cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod er mwyn annog gweithio mewn partneriaeth. Nodwch yn eich ateb os yw’n well gennych beidio â rhannu eich cyfeiriad e-bost. Bydd ffotograffydd hefyd yn bresennol yn ystod y dydd.