Gweinidog Addysg yn lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel
30 / 10 / 2015
Chwith i’r dde (blaen) Samuel Bowen, Hannah Lewis, ac Ethan Thomas, disgyblion yn Ysgol St Cyres, (cefn) Yr Athro Lorna Hughes, Prif Ymchwiliwr Cymru yn y Rhyfel, Nigel Clubb, Cronfa Treftadaeth y Loteri, Huw Lewis AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau, Dr Jonathan Hicks, Pennaeth Ysgol St Cyres, a Swyddog Gwarant Diana Cope, Y Llynges Frenhinol. © Roger Donovan, Media Photos
Gweinidog Addysg yn lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel
Ar ddydd Llun 2 Tachwedd 2015, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel yn Ysgol St Cyres, Penarth – adnodd digidol, dwyieithog o bwys ar gyfer plant ysgol, athrawon ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’i effaith ar gymunedau yng Nghymru.
Ariennir Cymru yn y Rhyfel gan Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, Cronfa Treftadaeth y Loteri ac Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n arwain y prosiect, mewn partneriaeth â’r Llynges Frenhinol ac ysgolion dros Gymru. Mae’r prosiect hefyd wedi elwa o weithio’n agos gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys y Lluoedd Arfog, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
Bydd Cymru yn y Rhyfel yn gweithio gyda phobol ifanc dros Gymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o hanes y rhyfel gan ddefnyddio adnoddau digidol. Mae’r gwefan a’r ap yn cynnwys llinell amser y Rhyfel gyda naws Gymreig, adran Theatrau Rhyfel yn dangos lle bu aelodau’r Lluoedd Arfog o Gymru yn ymladd, a theclyn sy’n cefnogi pobol ifanc a’r cyhoedd i greu bywgraffiadau o’r enwau wedi’u rhestri ar eu cofebion ryfel lleol. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth gymunedol o gofebion, gan dynnu sylw at unrhyw anghenion cadwraeth, a bydd yn creu gwaddol ystyrlon o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, rhaglen Llywodraeth Cymru i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf dros Gymru.

Disgyblion Ysgol St Cyres (Samuel Bowen, Hannah Lewis, ac Ethan Thomas) yn cyflwyno eu hymchwil yn y lansiad. © Roger Donovan, Media Photos
Wrth lansio’r platfform newydd, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC:
“Mae’n bleser gen i lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel – prosiect i ddatblygu dysgu cynhwysol ac yn annog gweithgareddau treftadaeth fel rhan o goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
“Un o brif amcanion ein rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw annog ein pobol ifanc i ymddiddori yn nigwyddiadau a chanlyniadau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
“Bydd y prosiect yma, sydd â naws Cymreig arbennig, yn meithrin cydweithio rhwng ysgolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau milwrol drwy ddatblygu bywgraffiad cyfunol o Gymru yn y rhyfel.”
Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru:
“Mae cofebion rhyfel yn deyrngedau ffisegol i’n harwyr rhyfel. Fel mae’r prosiect arbennig yma yn dangos, mae diddordeb mawr i goffau’r canmlwyddiant ac i ddarganfod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, yn aml mewn ffurf newydd a gwahanol. Mae rhai o’r straeon yn bryfoclyd ac ysbrydoledig; rhai yn anghyfforddus ac yn creu dadl. Yr ydym am annog cymunedau i archwilio’r straeon yma ac yr wyf yn falch iawn bod y prosiect yma yn cyrraedd gymaint o bobol.”
Ychwanegodd Dr Jonathan Hicks, Pennaeth Ysgol St Cyres, hanesydd milwrol ac awdur:
“Mae canmlwyddiant a choffâd y Rhyfel Mawr yn rhoi cyfle unigryw i ni i weithio gyda phobol ifanc gan ddysgu iddynt y sgiliau i’w galluogi i ddysgu mwy am effaith y rhyfel dinistriol yma ar eu cymunedau. Mae ap a gwefan Cymru yn y Rhyfel yn gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg mae pobol ifanc yn defnyddio’n ddyddiol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a chydweithio.”
Mae’r wefan ar gael o www.walesatwar.org a gellid lawrlwytho’r ap, yn rhad ac am ddim, o’r App Store, Google Play a drwy Hwb, platfform dysgu digidol Llywodraeth Cymru.
Mae Cymru yn y Rhyfel yn brosiect pwysig sy’n estyn allan gan annog pobol ifanc a chymunedau dros Gymru i weithio gyda’i gilydd i ddarganfod mwy am effaith y rhyfel ar Gymru. Erbyn 2019, gyda’ch cymorth chi, mae’r prosiect yn gobeithio casglu straeon personol tua 40,000 o Gymry – milwyr, morwyr, awyrenwyr, nyrsys a phobol gyffredin – a gollodd eu bywydau fel rhan o ymdrech ryfel Cymru.
Gwybodaeth bellach:
Rhian James, Rheolwr Prosiect, rhian.james@llgc.org.uk neu 01970 632970
Elin-Hâf post@llgc.org.uk neu 01970 632534