NEWYDDION

Digwyddiad CDL yn y Senedd, Caerdydd yn ystod Wythnos y Cofio

09 / 11 / 2015

hlfI gyd-fynd â digwyddiad a gynhelir yn y Senedd yng Nghaerdydd wythnos nesaf yn ystod Wythnos y Cofio, mae Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru (CDL), yn disgrifio sut y mae grantiau gan y Gronfa i wahanol grwpiau yn gyfrwng i helpu meithrin gwell dealltwriaeth o ddylanwad y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith ar filiynau o bobl ledled y byd ac mae ei argraff yn dal i’w weld ar ein byd ni heddiw. Mae’r Canmlwyddiant yn cynnig cyfle i ddeall y rhyfel, i ddatguddio’i storïau ac archwilio beth mae’n ei olygu i ni heddiw.

Helpu cymunedau i archwilio’r Rhyfel Byd Cyntaf a’i ddylanwad arhosol ar ein pobl a’n tirlun – dyna’r bwriad wrth wraidd ein rhaglen ariannu Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw. Cafodd ergydion y digwyddiadau hynny ganrif yn ôl ddylanwad anfesuradwy ar gymunedau ar hyd a lled y DU, ac mae eu sgil effeithiau yn dal gyda ni hyd heddiw. Gan amlaf, profiadau’r rhai hynny a ymrestrodd â’r lluoedd arfog sy’n denu’r sylw, ond dylem hefyd ystyried profiadau’r rhai a adawyd ar ôl, a sut y trowyd eu byd â’i ben i waered. Sut y goroesodd ein cymunedau? Pwy gamodd i esgidiau’r dynion a chyflawni tasgau allweddol? Sut newidiodd bywyd beunyddiol ein cartrefi?

Mae cymaint o’r storïau hyn yn dal heb eu hadrodd ac yn aros i gael eu datguddio. Mae pob un o’r 63 o brosiectau a ariannwyd yng Nghymru hyd yma yn cynnig safbwynt neu olwg gwahanol iawn i’w gilydd – ond o’u casglu ynghyd, maent yn creu tapestri o ddelweddau sy’n help i newid ein darlun a’n dealltwriaeth o ryfel.

Mae prosiect yn Amgueddfa Arberth yn Sir Benfro yn enghraifft dda o hyn: Trwy gyfrwng casgliad o lythyron a ysgrifennwyd gan filwr lleol, William Bowen Stephens, fe fuon nhw’n archwilio dylanwad y rhyfel ar eu tref. Bu’r amgueddfa a’r Theatr Ieuenctid leol yn cydweithio i greu drama’n seiliedig ar gynnwys y llythyron hynny. Trwy gyfosod y llythyron gyda darlleniadau o ‘Pink Mist’, drama fydryddol gan Owen Sheers sy’n archwilio sgil effeithiau seicolegol a chorfforol rhyfel Afghanistan ar dri milwr ifanc, mae’r ddrama’n bwrw goleuni ar debygrwydd y profiad o ryfel a rhyfela ar hyd y degawdau.

Mewn cyferbyniad â hynny, canolbwyntiodd prosiect Cymdeithas Hanes Meirionydd yng Ngwynedd ar archwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar wragedd a menywod yr ardal, ar hynt gwrthwynebwyr cydwybodol, a hefyd yr ergyd o golli cymaint o grefftwyr arbenigol o bentrefi’r cymunedau hynny.

Richard Bellamy, Head of the Heritage Lottery Fund Wales (HLF)’ / ‘Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru (CDL) © Patrick Olner

Richard Bellamy, Head of the Heritage Lottery Fund Wales (HLF)’ / ‘Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru (CDL) © Patrick Olner

Mae cefnogi prosiectau fel hyn sy’n bwrw golau ar storïau cuddiedig neu’n datgelu storïau am y tro cyntaf yn arbennig o agos at fy nghalon fel pennaeth CDL yng Nghymru. Roedd fy ewythr, Capten Charles Bellamy, yn un o’r cant cyntaf o ddynion a wirfoddolodd i ymuno â’r fyddin wedi galwad yr Arglwydd Kitchener am 100,000 o filwyr i ymrestru ym 1914. Roedd catrawd fy ewythr – y ‘Grimsby Chums’ – ymysg y don gyntaf a aeth dros y top ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme ym mis Gorffennaf 1916. Er bod Capten Bellamy ymysg yr ychydig rai pan ddechreuodd y rhyfel, erbyn y diwedd doedd e’n ddim mwy nag un arall o’r miloedd ar filoedd na ddychwelodd.

Mae darganfod storïau ingol o bersonol o’r fath a rhoi bywyd newydd iddynt yn fodd i bwysleisio’r neges bod yr hyn a ddigwyddodd ganrif yn ôl yn para’n berthnasol i ni heddiw, ac mae’n un o amcanion craidd y rhaglen hon – fel y ffeindiais innau wrth ymchwilio hanes fy nheulu.

Elfen bwysig arall yn llwyddiant cymaint o’r prosiectau hyn a ariennir gan CDL yw eu natur hollgynhwysol, yn enwedig eu llwyddiant wrth ddenu pobl ifanc i gyfrannu iddynt. Mae gan bobl ifanc allu rhyfeddol i ddatguddio storïau a defnyddio technegau modern i ddadlennu perthnasedd cyfoes y storïau hynny. Enghraifft berffaith o hynny yw’r prosiect ym Mlaenau Gwent a Torfaen lle defnyddiodd grŵp o 30 o bobl ifanc eu grant i gynhyrchu dwy ffilm animeiddiedig fer yn seiliedig ar waith ymchwil ganddynt i brofiadau milwyr Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ddefnyddion nhw fan wedi ei gwedd-newid i edrych fel twll ymochel o gyfnod y Rhyfel ac ynddi offer sain, camerau a sganiwr ar gyfer casglu’r storïau hyn.

Enghraifft dda arall yw Grŵp Hanes Lleol Llangwm sy’n cydweithio gyda grwpiau o ddisgyblion ysgol i greu perfformiad a fydd yn archwilio effaith ac ergyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar eu pentref – y rhai a aeth i faes y gâd a’r rhai hynny a adawyd ar ôl ac a dreuliodd gyfnod y rhyfel wrth waith allweddol fel ffermio, mwyngloddio a gweithio yn yr iard longau.

Cipolwg yn unig yw hyn ar waith CDL hyd yma yn coffáu effaith y Rhyfel Byd Cyntaf – gwaith sy’n bell o fod drosodd. Bellach, mae £4 miliwn ychwanegol ar gael i ariannu prosiectau newydd, yn cynnig grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ac rydym yn annog ceisiadau o bob cwr o Gymru.

Os ydych chi’n ystyried ceisio am grant neu os oes gennych syniad i helpu i ddod â phrofiadau’r gorffennol yn fyw i’r genhedlaeth hon a’r nesaf – cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd i glywed gennych a chlywed eich syniadau.