Pobl ifanc Sir Benfro yn archwilio’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy lythyrau ingol gan filwr
13 / 11 / 2015Mae cyfres o lythyrau a gafodd eu hysgrifennu gan filwr lleol wedi bod yn ganolbwynt prosiect pwerus dan arweiniad Amgueddfa Arberth gyda phobl ifanc, sy’n dramodi sut y mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn dal i fod yn berthnasol hyd yn oed heddiw.
Mae prosiect ‘Llythyrau o flaen y gad: Dysgu o’r gorffennol’, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), wedi ymchwilio i’r effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar dref Arberth yn Sir Benfro, gan ganolbwyntio ar lythyrau a gafodd eu hysgrifennu gan filwyr lleol – William Bowen Stephens yn eu plith.
I ddod â’r llythyrau’n fyw, mae Amgueddfa Arberth wedi gweithio gyda Theatr Ieuenctid Arberth ar gynhyrchiad arbennig sy’n cysylltu atgofion o’r Rhyfel Byd Cyntaf â phrofiadau pobl mewn rhyfeloedd mwy diweddar. Yn y ddrama, mae’r llythyrau wedi eu cyfosod â darlleniad o Pink Mist gan Owen Sheers – drama fydr sy’n archwilio ôl-effeithiau seicolegol a chorfforol y rhyfel yn Afghanistan ar dri milwr ifanc. Roedd yr amgueddfa am wneud y profiadau rhyfel hyn yn fwy perthnasol, er mwyn cyfleu’r gwirionedd am ryfel, a’i effeithiau ar gymunedau mawr a bach, gartref a thramor.
Chwaraeodd Holly Gillard, 14, ran flaenllaw yn y perfformiad gan y Theatr Ieuenctid, ac roedd hi’n credu bod y ddrama wedi helpu i droi’r llythyrau’n brofiad go iawn i bawb a gymerodd ran: “Gan fy mod i wedi bod yn rhan o greu a pherfformio ‘The Pals’ Battalion’, roeddwn i’n gallu cydymdeimlo mwy â’r milwyr ifanc, ac yn deall sut roedd y rhyfel wedi effeithio arnyn nhw nid yn unig ar y pryd, ond am weddill eu hoes.”
Mae’r prosiect, sydd wedi’i gefnogi gan CDL, yn un o blith llawer sy’n ymddangos heddiw mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd, lle bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i ystyried syniadau newydd am weithgareddau i’w helpu i nodi cerrig milltir canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Pauline Griffiths o Amgueddfa Arberth yn esbonio sut daeth y prosiect i fodolaeth: “Mae gan Amgueddfa Arberth gasgliad hynod ddiddorol o lythyrau o’r Rhyfel Byd Cyntaf a gafodd eu hysgrifennu gan un o gyn-filwyr y dref, William Bowen Stephens. Mae’n ysgrifennu am ei brofiadau ar flaen y gad, mae’n rhoi ei farn am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn rhannu ei obeithion am y dyfodol – ac nid yw’n hawdd eu darllen bob amser.
“Mae llythyrau gan ei gyd-filwyr ar ôl iddo farw yn dangos eu cyfeillgarwch mawr a pha mor uchel ei barch oedd William, ac mae’r darlun maen nhw’n ei roi o fywyd yn ystod y rhyfel yn dra thrawiadol ar adegau. Mae’r rhain i gyd wedi eu harddangos bellach, ynghyd ag arteffactau eraill o’r Rhyfel Byd Cyntaf a oedd gynt mewn storfa.”
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau ledled Cymru a’r DU sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae 63 o brosiectau yng Nghymru wedi derbyn grant hyd yn hyn.
O ganlyniad i’w llwyddiannau, mae CDL wedi clustnodi £4 miliwn ychwanegol ar gyfer cymunedau sydd am archwilio, cadw a rhannu eu hanesion a’u cysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae grantiau ar gael rhwng £3,000 a £10,000 gan y rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw, yn enwedig ar gyfer i’r rheini sydd am archwilio’r Somme yn 2016.
Esboniodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Mae’r galw am ariannu wrth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau sy’n helpu cymunedau i archwilio a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf wedi bod yn ysgubol. Fel y gallwn ni weld o’r prosiect ardderchog hwn yn Amgueddfa Arberth, bod diddordeb enfawr mewn nodi’r canmlwyddiant ac archwilio’r dreftadaeth a’r straeon mewn ffyrdd gwahanol a newydd.
“Fodd bynnag, mae mwy o straeon i’w hadrodd o hyd, ac mae llawer ohonynt heb gael eu hadrodd erioed, neu wedi mynd yn angof yn ystod y blynyddoedd. Mae rhai o’r rhain yn procio’r meddwl ac yn ysbrydoli; mae rhai ohonynt yn annifyr ac yn sbarduno trafodaeth. Rydym ni am annog cymunedau i archwilio i’r straeon hyn. Bydd y cyllid ychwanegol sydd wedi’i gyhoeddi gennym yn helpu mwy fyth o bobl i gymryd rhan ac archwilio ystod fwy eang o straeon a fydd yn y pendraw yn rhoi dealltwriaeth well i ni o sut mae’r rhyfel wedi siapio’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw.”
Dim ond un grŵp o blith llawer sydd wedi gallu archwilio treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf o ganlyniad i’r cyllid hwn yw prosiect ‘Llythyrau o flaen y gad: Dysgu o’r gorffennol’ Amgueddfa Arberth, ond mae digonedd o hanesion i’w datguddio o hyd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhaglen grant y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ewch i www.cymraeg.hlf.org.uk.