Sgowtiaid heddiw yn datgelu stori am arwr rhyfel Sgowtiaid Ynys Môn 100 mlynedd yn ôl
13 / 11 / 2015Mae grŵp o Sgowtiaid gogledd Cymru wrthi’n chwilio am fwy o wybodaeth am un o’u haelodau gwreiddiol, a enillodd yr anrhydedd uchaf posibl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, drwy brosiect arbennig a gefnogir gan raglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri, sef Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw.
Mae Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy ar fin dechrau ar brosiect dwy flynedd i archwilio rôl y Sgowtiaid lleol ac arweinwyr y Sgowtiaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth iddynt anelu at ddod â’r gorffennol yn fyw, maen nhw hefyd yn buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu map digidol sy’n amlygu’r cyfraniad a wnaed gan y Sgowtiaid yn ystod y rhyfel.
Yn benodol, mae’r grŵp yn awyddus i ddarganfod mwy am John Fox Russell, Sgowtiwr o Gaergybi a wnaeth dderbyn Croes Fictoria a Chroes y Lluoedd Arfog. Roedd yn gapten yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, ac fe gafodd ei ladd ym Mhalesteina ym 1918.
Mae Elin Thompson yn 17 oed ac yn aelod presennol o’r Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy. Mae hi’n ymddiddori yn y prosiect hwn oherwydd ei chysylltiad hynod bersonol fel rhan o Sgowtiaid Ynys Môn: “Mae dysgu am John Fox Russell yn golygu y byddwn yn gallu dod i wybod am rywun sy’n union fel ni, ond a oedd yn byw canrif yn ôl.
“Mae pori drwy hen bapurau a dogfennau yn ei wneud yn brofiad real iawn, ac mae’n frawychus meddwl y gallai un ohonom fynd i ryfel, ond dyna’n union beth wnaeth ef. Rwy’n falch y bu gan y Sgowtiaid y dewrder i ymladd yn y rhyfel er gwaetha’r ffaith eu bod mor ifanc.”
Gyda chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), mae’r prosiect yn un ymhlith nifer sy’n rhan o ddigwyddiad arbennig heddiw yn y Senedd yng Nghaerdydd, lle bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i ystyried syniadau newydd ar gyfer gweithgareddau i’w helpu i nodi cerrig milltir canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r grŵp eisoes wedi gwneud darganfyddiadau diddorol, fel dywed arweinydd y Sgowtiaid, Stephen Mudge: “Sefydlwyd Grŵp y Sgowtiaid yn 1909, er iddo gau dros dro yn 1916 am fod nifer o Feistri’r Sgowtiaid a’r Sgowtiaid wedi mynd i ryfel.
“Rydym am ganfod mwy am y dynion ifanc dan sylw, a’r hyn a ddigwyddodd iddynt, gan ddatblygu cronfa ddata ddigidol lle gallwn groesgyfeirio pobl, lleoedd, digwyddiadau, ac eitemau. Byddwn hefyd yn mynd ar daith o amgylch Ynys Môn i ymweld â lleoedd allweddol a chofebion rhyfel, gan eu cofnodi a thynnu lluniau ohonynt er mwyn sicrhau nad yw’r straeon lleol hyn yn mynd yn angof.”
Eu nod yw teithio i’r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd yn Llundain er mwyn gweld y casgliadau mwyaf o fedalau Croes Fictoria ac yna ymweld ag amgueddfa Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin (RAMC) yn Aldershot i ddod o hyd i’w fedalau. Bydd profiadau o’r fath yn dod â’r holl beth yn fyw i Sgowtiaid y dwthwn hwn.
 Stephen Mudge yn ei flaen: “Ac er ein bod yn edrych ar y gorffennol, rydym wedi buddsoddi mewn technoleg fodern, sef camerâu quadcopter a fydd yn ein helpu i ddatblygu map digidol o’r safleoedd claddu ar gyfer y Sgowtiaid hyn ledled gogledd Cymru.”
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau ledled Cymru a’r DU sy’n helpu pobl i ddarganfod mwy am dreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae grantiau wedi cael eu dyfarnu i 63 o brosiectau yng Nghymru hyd yn hyn.
O ganlyniad i’w llwyddiant, mae CDL wedi clustnodi £4 miliwn ychwanegol ar gyfer cymunedau sydd am archwilio, cadw a rhannu eu hanesion a’u cysylltiadau lleol ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ar gael wrth raglen Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, yn enwedig i’r rheini sy’n bwriadu archwilio i’r Somme yn 2016.
Dywed Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Mae’r galw am ariannu wrth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau sy’n helpu cymunedau i ymchwilio a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf wedi bod yn aruthrol. Daw yn amlwg wrth y prosiect anhygoel hwn yn Ynys Môn bod diddordeb enfawr mewn nodi’r canmlwyddiant ac archwilio’r dreftadaeth a’r straeon mewn ffyrdd gwahanol a newydd.
“Fodd bynnag, mae mwy o straeon i’w hadrodd o hyd, ac mae llawer ohonynt heb gael eu hadrodd erioed, neu wedi mynd yn angof yn ystod y blynyddoedd. Mae rhai o’r rhain yn procio’r meddwl ac yn ysbrydoli; mae rhai ohonynt yn annifyr ac yn sbarduno trafodaeth. Rydym ni am annog cymunedau i archwilio i’r straeon hyn. Bydd y cyllid ychwanegol sydd wedi’i gyhoeddi gennym yn helpu mwy fyth o bobl i gymryd rhan ac archwilio ystod fwy eang o straeon a fydd yn y pendraw yn rhoi dealltwriaeth well i ni o sut mae’r rhyfel wedi siapio’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhaglen grant y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ewch i www.cymraeg.hlf.org.uk.