NEWYDDION

Pobl ifanc y Cymoedd yn defnyddio technoleg fodern i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf

13 / 11 / 2015

Nid ffilmiau doniol neu ddisylwedd bob amser yw ffilmiau animeiddiedig, fel mae grŵp o bobl ifanc o Flaenau Gwent a Thorfaen wedi bod yn darganfod. Maent wedi gafael yn y dull ysgafn a phoblogaidd iawn hwn er mwyn tynnu sylw pobl leol at y Rhyfel Byd Cyntaf mewn modd sydd yn annisgwyl ond yn llawn synnwyr.

Mae grwpiau ieuenctid ym Mlaenau Gwent a Thorfaen wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn ymchwilio i brofiadau milwyr Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi dod â nhw’n fyw mewn ffurf animeiddiedig. Tra oedd y grwpiau ieuenctid yn cwblhau eu prosiectau – gyda chymorth Celfyddydau Cymunedol Breaking Barriers – ymwelodd Celf ar y Blaen â chymunedau ym Merthyr Tudful a Chaerffili yn eu “byncer” – fan transit a gafodd ei thrawsnewid mewn modd creadigol i ymdebygu i ffos o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf a’i defnyddio fel gofod digidol symudol i adrodd hanesion. Cafodd pobl leol eu hannog i ymweld â’r “byncer” er mwyn rhannu eu hanesion teuluol a’u hargraffiadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf fel modd i ychwanegu at y prosiect animeiddio.

Mae ‘Y Rhyfel Byd Cyntaf: ‘Safbwynt y Cymoedd’ yn brosiect celf a threftadaeth dan arweiniad Celf ar y Blaen ac ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd wedi defnyddio’r celfyddydau digidol i archwilio effaith hirdymor y Rhyfel Byd Cyntaf ar raddfa byd eang a lleol.

Un o’r bobl ifanc oedd Kailynn Nash, a oedd yn credu bod cymryd rhan yn y prosiect yn rhoi dealltwriaeth newydd iddi ynglŷn â’r profiadau adeg rhyfel hyn – sy’n dal yn fyw hyd yn oed ar ôl can mlynedd.

“Mae’n gallu bod yn anodd deall sut mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn berthnasol heddiw – i mi a fy mywyd bob dydd. Ond wrth i ni siarad â mwy o bobl a chlywed mwyfwy o hanesion, dechreues i ddeall nad oedd bywydau pobl yn y cyfnod hwnnw mor wahanol – ond yna dechreuodd y rhyfel a chafodd cymunedau, teuluoedd a pherthnasau eu chwalu.

“Cawson ni’r syniad o’r animeiddio achos roedden ni’n meddwl y byddai’n apelio at bobl ifanc heddiw, ac roedd yn fodd i ni ddysgu sgiliau newydd megis ffilmio a golygu.”

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), mae’r prosiect yn un ymhlith nifer sy’n rhan o ddigwyddiad arbennig heddiw yn y Senedd yng Nghaerdydd, lle bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i ystyried syniadau newydd ar gyfer gweithgareddau i’w helpu i nodi cerrig milltir canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Bethan Lewis, cydlynydd y prosiect, yn credu ei fod wedi rhoi profiadau gwerthfawr i bawb sydd wedi ymwneud ag ef:

“Y llwyddiant mawr, yn fy marn i, yw’r ffaith ei fod wedi datblygu’n gyson wrth i’r bobl ifanc gael  syniadau newydd ynglŷn â sut i gofnodi hanesion o gyfnod y rhyfel. Doedd y mwyafrif ddim wedi cymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth yn y gorffennol, ond erbyn hyn maen nhw’n awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg eraill yn y dyfodol.

“Roedd cael pobl o bob oedran yn y cymunedau i gymryd rhan weithredol yn y prosiect yn fodd i bobl ifanc edrych ar ystod eang o hanesion digidol a chreu eu hanimeiddiadau eu hunain sy’n dod â’r profiadau’n fyw – mae’n brosiect a fydd yn parhau i dyfu a bydd yn adnodd addysgol hefyd.”

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau ledled Cymru a’r DU sy’n helpu pobl i ddarganfod mwy am dreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae grantiau wedi cael eu dyfarnu i 63 o brosiectau yng Nghymru hyd yn hyn.

O ganlyniad i’w llwyddiant, mae CDL wedi clustnodi £4 miliwn ychwanegol ar gyfer cymunedau sydd am archwilio, cadw a rhannu eu hanesion a’u cysylltiadau lleol ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ar gael wrth raglen Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, yn enwedig i’r rheini sy’n bwriadu archwilio i’r Somme yn 2016.

Dywed Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Mae’r galw am ariannu wrth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau sy’n helpu cymunedau i ymchwilio a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf wedi bod yn aruthrol. Daw yn amlwg wrth y prosiect anhygoel hwn yn Ynys Môn bod diddordeb enfawr mewn nodi’r canmlwyddiant ac archwilio’r dreftadaeth a’r straeon mewn ffyrdd gwahanol a newydd.

“Fodd bynnag, mae mwy o straeon i’w hadrodd o hyd, ac mae llawer ohonynt heb gael eu hadrodd erioed, neu wedi mynd yn angof yn ystod y blynyddoedd. Mae rhai o’r rhain yn procio’r meddwl ac yn ysbrydoli; mae rhai ohonynt yn annifyr ac yn sbarduno trafodaeth. Rydym ni am annog cymunedau i archwilio i’r straeon hyn. Bydd y cyllid ychwanegol sydd wedi’i gyhoeddi gennym yn helpu mwy fyth o bobl i gymryd rhan ac archwilio ystod fwy eang o straeon a fydd yn y pendraw yn rhoi dealltwriaeth well i ni o sut mae’r rhyfel wedi siapio’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw.”

Mae prosiect ‘Y Rhyfel Byd Cyntaf: Safbwynt y Cymoedd’ yn ddim ond un o’r grwpiau sydd wedi archwilio’r Rhyfel Byd Cyntaf diolch i’r cyllid hwn, ond mae llawer mwy o hanesion i’w datgelu eto. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhaglen grant y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ewch i www.cymraeg.hlf.org.uk.