NEWYDDION

Gwylnos ledled y DU i gofio brwydr y Somme

23 / 11 / 2015

Y Llywodraeth yn cyhoeddi digwyddiadau ledled y DU i goffáu canmlwyddiant brwydr y Somme.

photo

Llun: Amgueddfeydd Ryfel Ymerodrol

Heddiw, cyhoeddodd John Whittingdale, Ysgrifennydd Diwylliant y DU, fod gwylnos gyhoeddus yn mynd i gael ei chynnal ledled y DU i nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme.

Ar 30 Mehefin, caiff gwylnos ei chynnal yn Abaty Westminster, a bydd yna eraill yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y gall cymaint o bobl â phosibl ddod at ei gilydd a chofio’r rheiny a gollwyd.

Ar 1 Gorffennaf 2016 cynhelir Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol hefyd yn Eglwys Gadeiriol Manceinion ac yna gorymdaith drwy Fanceinion i Heaton Park. Daw’r digwyddiad i ben gyda pherfformiadau byw o gerddoriaeth, siarad a dawnsio, gan gynnwys Cerddorfa Hallé.

Dywedodd John Whittingdale:

“Rhaid inni beidio ag anghofio byth raddfa’r hyn ddigwyddodd yn y Somme. Fe fu farw fwy o bobl yn ystod diwrnod cyntaf y frwydr nag ar unrhyw ddiwrnod arall yn hanes y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe gyffyrddwyd â phob teulu yn ynysoedd y DU bron.

Dwi’n gobeithio y bydd pobl o bob cenhedlaeth ar hyd a lled y DU yn cael cyfle i fynd i ddigwyddiad ac anrhydeddu dewrder y rheiny a aberthodd gymaint.”

Caiff y gwylnosau eu cynnal ar 30 Mehefin 2016 yn:

  • Abaty Westminster o amgylch Bedd y Milwr Dienw;
  • Cofeb Ryfel Genedlaethol yr Alban yng Nghastell Caeredin;
  • Clandeboye a Helen’s Tower, County Down, Gogledd Iwerddon – mewn cysylltiad â Chanolfan Dreftadaeth y Somme;
  • Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Yn ystod Brwydr y Somme, gwelwyd dros filiwn yn cael eu hanafu, eu lladd neu’n mynd ar goll ar feysydd y gad ac effeithiodd ar fywydau miliynau gartref.

Gallwch hefyd goffáu canmlwyddiant y frwydr drwy:

  • raglen o ddigwyddiadau dros nos yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Llundain ar 30 Mehefin;
  • seremoni goffa ddyddiol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn Thiepval am 11yb Amser Safonol Greenwich (12 Amser Canol Ewrop) rhwng 2 Gorffennaf a 18 Tachwedd i nodi’r 141 diwrnod o frwydro. Anogir cymunedau ledled y DU i gynnal digwyddiadau lleol sy’n gysylltiedig â’r seremonïau yn Thiepval
  • Bydd yna nifer o ddigwyddiadau ledled y meysydd brwydro ym mynwentydd ac wrth gofebau Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, a bydd y Comisiwn yn helpu sefydliadau i gynllunio digwyddiadau.

Gall cymunedau sydd â diddordeb mewn ymchwilio i effaith Brwydr y Somme yn y ffosydd neu ar y rheiny oedd yn cefnogi’r rhyfel nôl gartref wneud cais am grantiau o gronfa’r Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw (Cronfa Dreftadaeth y Loteri), cronfa werth £4 miliwn.

Gall cymunedau hefyd wneud cais am arian i wneud gwaith cadwraeth ar eu cofebau rhyfel a’u hatgyweirio.

Dywedodd yr Is-Lyngesydd Peter Wilkinson CB CVO, Llywydd Cenedlaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol:

“Fel ceidwad-gorff coffa’r DU, mae’n anrhydedd i’r Lleng Brydeinig Frenhinol gael chwarae rhan allweddol yn y digwyddiadau i goffáu canmlwyddiant Brwydr y Somme. Mae’n hynod bwysig ein bod yn parhau i gydnabod yr aberth a wnaed gan y cannoedd o filoedd a fu farw yn ystod 141 diwrnod y Frwydr, a’n bod yn eu coffáu mewn ffordd sy’n berthnasol i bob cenhedlaeth ac mewn ffyrdd y gall pawb gyfrannu atynt. Bydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a’r Lleng yn cynnal seremonïau dyddiol yn Thiepval ac fe fyddwn yn gofalu bod yr atgof am y rheiny a gollodd eu bywydau ganrif yn ôl yn parhau.”

Dywedodd Mr Colin Kerr, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol y Comisiwn:

“Mae Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad wrth ei fodd yn cael cydweithio â’i bartneriaid yn llywodraeth y DU a’r Lleng Brydeinig Frenhinol i gefnogi cyfres o weithgareddau a fydd yn nodi 141 diwrnod brwydr y Somme, yn Ffrainc a’r DU.

Drwy’r digwyddiadau dyddiol wrth ein cofeb yn Thiepval i’r rhai a fu farw, a thrwy annog y cyhoedd i ymweld â’n mynwentydd ar hyd a lled ardal y Somme, ynghyd â chyfoeth o adnoddau ar-lein ac ar ein safleoedd, rydyn ni’n gobeithio talu teyrnged briodol i’r rheiny a fu farw, ond rydyn ni hefyd am annog mwy a mwy o’r cyhoedd i ymweld, dysgu a chofio.”

Dywedodd Diane Lees, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol:

“Mae’r Amgueddfa yn falch o gael ymuno â’r cofio cenedlaethol i nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme a bydd yn agor ei drysau dros nos i bawb sydd am ddod. Fe sefydlwyd yr Amgueddfa yn wreiddiol tra oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal i gael ei ymladd er mwyn cofio’r rheiny a fu’n byw ac yn ymladd drwy’r frwydr, a’r rheiny a fu farw ac a oroesodd. Ganrif wedyn, rydyn ni’n parhau i wneud hynny ac am annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni.”