3,000 o goed ar gyfer 3,000 o blant yng Nghoed Ffos Las
23 / 12 / 2015
Sarah Manchipp, Dyfan Rees, Carwyn Glyn and local MP Jonathan Edwards get planting at Ffos Las (Photo: WTML)
Gwirfoddolwyr hen ac ifanc yn helpu creu coedlan newydd ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
Dros 3,000 o goed brodorol yng Nghoed Ffos Las, Coedwig Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, sydd wedi cael ei chreu gan Coed Cadw (Woodland Trust) ger Cydweli. Ac fe fydd y coed hyn yn rhan o brosiect Plant!, sydd â’i fryd ar ddathlu genedigaeth neu fabwysiad pob plentyn yng Nghymru, a hynny drwy blannu coed.
Yn dilyn ymgyrch codi arian cyhoeddus llwyddiannus y llynedd, fe drefnodd Coed Cadw wythnos gyfan o ddigwyddiadau plannu coed, ar gyfer 10 ysgol gynradd leol o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener, gyda diwrnod arbennig ar gyfer y cyhoedd ar y dydd Sadwrn.
Dywed Carol Travers o Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rhedeg prosiect Plant! ar ran Llywodraeth Cymru:
“Plannir pedair erw ar ddeg o goetir yng Nghoed Ffos Las fel rhan o brosiect Plant! Fe fydd plant sy’n cael eu geni yng Nghymru yn derbyn tystysgrif yn dweud fod coeden frodorol wedi cael ei phlannu iddyn nhw yn y goedwig arbennig hon. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Cadw i ddefnyddio’r coed hyn i annog teuluoedd a phobl ifanc i ymweld â mannau gwyrdd hardd. Dechreuwyd y prosiect yn 2008 ac mae Coed Cadw wedi plannu tair coedwig newydd ar gyfer plant Cymru erbyn hyn.”
Ymhlith y bobl leol a ddaeth i blannu coed yr oedd Dyfan Rees a Carwyn Glyn, sy’n chwarae Iolo Wyn a DJ yn Pobol y Cwm, Sarah Manchipp, sydd yn gyn Miss Wales, a Jonathan Edwards yr AS lleol, a ddywedodd:
“Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn y plannu coed, i gydnabod aberth y rhai a wasanaethodd yng ngwrthdaro erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, ond hefyd fel ffordd gadarnhaol o adfer safle sydd wedi cael ei ddifrodi gan gloddio glo brig. Rwy’n falch iawn i gefnogi prosiect fel hwn a fydd yn cynnig cymaint i’r gymuned leol yn y dyfodol.”
Ymhlith y rhai mwyaf brwd a chwaraeodd ran ar y Dydd Sadwrn oedd Milwyr Sgwadron Cludiant 224 (Iwnoniaeth Penfro), o Ganolfannau Adfyddin Caerfyrddin a Hwlffordd. Fe chwaraeodd y milwyr ran flaenllaw gan blannu bron i fil o goed.
Y llynedd fe roddodd cannoedd o bobl eu dwylo yn eu pocedi i godi £400,000 i alluogi Coed Cadw i sicrhau’r safle 120 erw lle plannir Coed Ffos Las. Bellach mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfrannu £20,000 tuag at gost y coed ar y safle a chodwyd dros £526,000 erbyn hyn tuag at gyfanswm cost y prosiect, sef £ 1.2m. Y nod yw creu coetir hardd newydd a fydd yn cynnwys nid yn unig erwau llawer o goed brodorol, ond hefyd perllan, cychod gwenyn, pwll dwr, ardal o goetir tocio, mannau agored ar gyfer mwynhau’r golygfeydd panoramig ynghyd â cherflun ceffyl fel nodwedd goffaol. Rhaid codi rhagor o arian tuag at y prosiect, fodd bynnag, a gellir cefnogi’r apêl ar wefan Coed Cadw.
Bwriad creu Coedwig Ganmlwyddiant ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yw cyfrannu at brosiect Cymru’n Cofio/Wales Remembers, sy’n cynnwys o leiaf 19 o sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
Mae cwmni Sainsbury’s yn bartner i Coed Cadw wrth gyflwyno prosiect Coedwigoedd Canmlwyddiant, gan helpu plannu miliynau o goed brodorol i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd Mike Coupe, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni:
“Rydym yn falch o gefnogi cofeb mor addas i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n bwysig i’n cwsmeriaid a chydweithwyr, ac yn goffaol i’r cydweithwyr a syrthiodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ogystal â dewis ein cynnyrch coetir lles uchel, mae ein cwsmeriaid yn gwybod eu bod hefyd yn chwarae rhan mewn achos da yr ydym wedi eu cefnogi am 10 mlynedd.