NEWYDDION

Y Prif Weinidog yn lansio rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2106 i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

28 / 01 / 2016

 

Heddiw mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi lansio Rhaglen 2016 – cyfres o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

FM with programme 2016Rhaglen 2016 yw’r llyfryn blynyddol diweddaraf yng nghyfres Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Mae’n rhoi hysbysrwydd i ddigwyddiadau a phrosiectau â chyswllt Cymreig sy’n cael eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt yn ystod 2016. Mae’r lansiad yn cyd-fynd â Diwrnod Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cael ei gynnal yn Aberystwyth.

Prif bwyslais eleni fydd cofio Brwydr y Somme. Bydd rhan y 38ain Adran ym Mrwydr Mametz Wood, sydd â chymaint o gysylltiadau â Chymru, yn cael ei goffáu ar ganmlwyddiant y frwydr ar 7 Gorffennaf.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd Castell Caernarfon yn croesawu Poppies: Weeping Window gan yr artist Paul Cummins, a’r dylunydd Tom Piper. Roedd y gwaith celf eiconig o babïau yn rhan o arddangosfa Blood Swept Lands and Seas of Red yn Nhŵr Llundain a bydd yng Nghaernarfon dros gyfnod Dydd y Cofio a chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme.

 

 

Programme 2016 Publication - Design - Front Cover - CYM -Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar yr effaith sylweddol a gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl Cymru – ac i goffáu’r rhai a fu’n gwasanaethu gartref a thramor.

“Ni ddylem fyth anghofio’r aberth a wnaed gan bobl Cymru, ynghyd â gweddill y DU a lluoedd y cynghreiriaid. Mae hi mor bwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod am y rhyfel erchyll hwn ac yn deall sut y mae wedi llunio Cymru heddiw. Dylem geisio dysgu oddi wrth hyn er mwyn gallu symud at fyd mwy heddychlon.

“Mae safon y cydweithio a chydgysylltu ledled Cymru ers i mi lansio rhaglen goffáu genedlaethol Cymru ym mis Awst 2014 wedi bod yn eithriadol. Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu rhestru yn Rhaglen 2016 yn profi y bydd hyn yn parhau gydol 2016 a thu hwnt.”

I weld y Rhaglen 2016 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.