NEWYDDION

Opera Cenedlaethol Cymru yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a Brwydr y Somme gyda phremière byd.

02 / 02 / 2016

Opera Cymreig

Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a Brwydr y Somme gyda phremière byd opera newydd a gomisiynwyd i ddathlu pen-blwydd WNO yn 70 oed. In Parenthesis yw addasiad y cyfansoddwr Prydeinig clodfawr Iain Bell o gerdd epig gan y bardd, yr awdur a’r artist David Jones.  Mae’r gwaith yn atgof o brofiad personol David Jones fel milwr ym Mrwydr Mametz Wood.  Ochr yn ochr â llwyfannu’r opera, mae WNO yn ymgymryd â rhaglen eang o brosiectau digidol, ieuenctid a chymunedol i ymgysylltu â chymaint â phosib o bobl ar draws cymunedau gyda themâu a cherddoriaeth yr opera a’i pherthnasedd i ganmlwyddiant Brwydr y Somme.  Comisiynwyd In Parenthesis gan Ymddiriedolaeth Nicholas John gyda 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol swyddogol y Deyrnas Unedig ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae In Parenthesis yn rhoi naratif unigryw o ryfel, yn gyfoethog mewn ansawdd cerddorol mynegiannol; mae’n darlunio hanes hynod wefreiddiol o’r brwydro a’r colledion mawr a ddioddefodd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn cael eu hanfon i’r Somme i ymladd ym Mrwydr Mametz Wood, lle maent yn dod ar draws teyrnas ryfedd – y tu hwnt i amser, fel breuddwyd ond yn angheuol.

Cyfarwyddwr y cynhyrchiad yw David Poutney a’r arweinydd yw Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO.  Mae’r cynhyrchiad cyfnod hwn yn atgof ac yn goffâd o ddigwyddiadau’r Somme.  Archwiliwyd seinwedd gyfoethog In Parenthesis yn llawn gan y cyd-libretwyr David Antrobus ac Emma Jenkins.  Mae gwybodaeth a dealltwriaeth y ddau o’r darn gwreiddiol wedi’u caniatáu nhw i greu libreto sydd, gyda chyfansoddiad atgofus Iain Bell, yn llwyddo i greu dimensiwn arallfydol sydd yn wahanol iawn i unrhyw naratif arall o ryfel.  Yn hytrach nag atgof llythrennol o’r Rhyfel Byd Cyntaf, cyflwynir y gwaith fel galwad i gofio sy’n cyfleu neges gyflawn o obaith.  Hyd yn oed yng nghanol dinistr, mae’n bosib dod o hyd i flodeuo bregus adfywio ac aileni.

“Penderfynodd Opera Cenedlaethol Cymru gomisiynu opera newydd yn seiliedig ar destun David Jones yn In Parenthesis am nifer o resymau da” esboniodd David Pountney Cyfarwyddwr Artistig WNO a Chyfarwyddwr In Parenthesis.  “Y rheswm cyntaf yw ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 70 oed eleni, ac roeddem eisiau dathlu hyn gyda phrosiect artistig pwysig, un sy’n rhan o’n cefnogaeth frwd o waith cyfoes.  Yr ail reswm yw bod eleni wrth gwrs yn ganmlwyddiant Brwydr y Somme, ac felly hefyd y digwyddiadau sy’n cael eu disgrifio yn nhestun David Jones.  Ond, y rheswm pwysicaf o bell ffordd yw ansawdd syfrdanol y testun, a’r ffaith ei fod hyd yma wedi tueddu i fod yng nghysgod beirdd mwy adnabyddus y Rhyfel Byd Cyntaf.  Serch hynny, mae beirniadaeth T. S. Elliot mai In Parenthesis oedd y darn gorau o lenyddiaeth i ddod allan o brofiadau arswydus y rhyfel yn parhau i fod yn asesiad cyfiawn a chytbwys.  Ac mae’n bosib iawn y bydd dwyster a symbolaeth gweledigaeth farddol Jones, sydd o bosib wedi ei gwneud hi’n anoddach i ddarllenwyr cyffredin i fwynhau’r gwaith, yn cael ei ryddhau trwy rym cerddoriaeth, ac mewn ffurf operatig bydd ei ddimensiynau cyfriniol a chwedlonol yn datgelu hyd yn oed yn fwy clir eu rhinweddau gwir drosgynnol.”

Mae sgôr Iain Bell yn cyfuno caneuon traddodiadol gydag enydau o arallfydolrwydd, braw, hiwmor a throsgynoldeb.  Mae’n defnyddio cyfuniad dyfeisgar o arddulliau cerddorol yn ymgorffori caneuon gwerin Cymreig traddodiadol, rhythmau gorymdeithio, ffanfferau ac alawon hyfryd.

Esboniodd Iain Bell: “Roedd hi’n anrhydedd i gael fy ngofyn i gyfansoddi In Parenthesis.  Wrth i mi ddod yn fwy cyfarwydd â’r gerdd a’r libreto rhyfeddol, roeddwn yn fuan wedi fy nghyffroi gan y syniad o ddarlunio yn gerddorol y fath fyd mae David Jones yn ei ddwyn i gof o erchyllter milwrol epig maes y gad, i ddarluniau arallfydol gweledigaethau’r Preifat John Ball.  Cefais fy rhyfeddu hefyd gan agosrwydd y perthnasoedd rhyngbersonol rhwng y milwyr oedd yn datblygu trwy gydol y libreto ac roedd hi’n bleser mawr cael ymchwilio i’r cylymau dwysaol hyn.  Mae rhyfel yn cael effaith anferthol, dybryd a thrasig, ond pan mae’r rhyfela drosodd, mae yna obaith; gobaith y bydd pethau yn well a theimlaf nad oes neges well i ni fod yn ei rhannu heddiw.”

Yn defnyddio cymysgedd o wisgoedd a llwyfannu hanesyddol gywir a thrawiadol cyfriniol, mae’r Cynllunydd Robert Innes Hopkins wedi creu cynhyrchiad sy’n darlunio profiad dynol milain a chiaidd y ffosydd a byd naturiol blodeuol y goedwig.

Yn dilyn y première byd yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru (dydd Gwener 13 Mai 7:15pm) a pherfformiadau pellach yng Nghaerdydd (dydd Sadwrn 21 Mai a dydd Gwener 3 Mehefin) bydd y gwaith yn mynd ar daith i Firmingham a Llundain, fel rhan o breswylfa flynyddol WNO yn y Tŷ Opera Brenhinol.  Bydd perfformiad arbennig yn y Tŷ Opera Brenhinol ar nos Wener 1 Gorffennaf am 7:30pm yn cyd-daro â chanmlwyddiant dechrau Brwydr y Somme.

Bydd y tenor Andrew Bidlack yn perfformio am y tro gyntaf gyda WNO ac yn chwarae’r brif ran y Preifat John Ball.  Mae Mark Le Brocq yn dychwelyd i WNO yn dilyn ei berfformiad llwyddiannus fel Ebenezer Scrooge yn addasiad Iain Bell o A Christmas Carol ym mis Rhagfyr, bydd ef yn chwarae rôl Sarsiant Snell.  Hefyd yn dychwelyd i WNO mae’r bariton enwog Donald Maxwell fel Dai Great Coat, Alexandra Deshorties fel Bardd Germania/Alice y Barforwyn/Brenhines y Coed a Graham Clark fel y Rhingyll Marne.  Yn perfformio gyda WNO am y tro cyntaf mae’r doniau newydd llawn addewid Marcus Farnsworth (Is-Gorproal), George Humphreys (Rhaglaw Jenkins) a Peter Coleman-Wright fel Bardd Brittannia/Swyddog Pencadlys.

Esboniodd yr Arweinydd Carlo Rizzi, “Mae bod yn rhan o greu gwaith newydd yn fraint arbennig i’r artistiaid sydd ynghlwm.  Nid yn unig oherwydd, fel gydag unrhyw ddarn sy’n bodoli, byddwn yn gweithio i greu a rhoi’r perfformiadau gorau posib, ond oherwydd, yn ystod yr ymarferion, byddwn hefyd yn darganfod pob dydd byd newydd o synau, a drama newydd a fydd yn disgrifio ac yn rhoi bywyd i ddigwyddiadau tyngedfennol o’r gorffennol a wnaeth gyffwrdd â chymaint o fywydau, sydd yn berthnasol heddiw ac sydd raid i ni eu cofio.  Mae’n gyffrous ac rwyf wir yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r broses hon, ac yn arbennig at weithio gyda Iain Bell, David Pountney a holl rymoedd WNO i nodi, gyda’r prosiect arbennig yma, pen-blwydd y Cwmni yn 70 oed.”

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “Rydym yn hynod falch i weithio mewn partneriaeth â WNO i ddod â cherdd epig David Jones In Parenthesis i’r llwyfan.  Yn 14-18 NOW rydym yn comisiynu artistiaid i greu ymatebion cyfoes i’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig gyda’r canmlwyddiant.  Bydd opera Iain Bell yn dod â stori’r milwyr ifanc yn Mametz a’r erchyllterau wnaethant ei wynebu yn fyw.”

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn frwd dros ddod ag opera i gynulleidfa mor eang ac amrywiol â phosib.  Gyda’r bwriad hwn mewn cof mae WNO wedi datblygu cyfres o brosiectau i ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned sydd efallai heb ystyried opera o’r blaen yn ogystal â gwella’r profiad o opera i rheiny sydd wedi.  Mae’r prosiectau yn cynnwys gweithio ag ysgolion a chymunedau lleol a datblygu llwyfan byd-eang i esbonio’r ystyr a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i In Parenthesis, gwaith David Jones a throsiad y gwaith hwnnw i opera.


Llwyfan Digidol In Parenthesis – Ym mis Chwefror, bydd WNO yn lansio llwyfan digidol yn www.inparenthesis.org.uk.  Bydd y llwyfan yn cynnwys cyfres o benodau yn archwilio cefndir In Parenthesis WNO ac awdur y gerdd ryfel epig.  Caiff y podlediad fideo cyntaf ei lansio ar 18 Chwefror 2016. Bydd y fideo yn ymchwilio i’r profiadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i waith David Jones In Parenthesis a’r broses ynghlwm ag addasu’r gwaith i opera – o’r ysbrydoliaeth wreiddiol i gynhyrchu’r gwisgoedd a’r set.  Bydd y gynulleidfa yn cael ei annog i danysgrifio, mae’r penodau yn rhad ac am ddim i’w gwylio ac maent ar gael ar draws amrywiaeth o lwyfannau: gwefan, YouTube, iTunes ac e-bost.  Ar y safle hefyd bydd yna gynnwys ategol megis casgliad o lawysgrifau a brasluniau adeg rhyfel gan David Jones, Libretydd David Antrobus yn darllen darnau o In Parenthesis a chyfle i gyfarfod cymeriadau’r opera gan gynnwys dylunio’r gwisgoedd.

Gosodiad DigidolI gyd-fynd â pherfformiad première byd In Parenthesis ar 13 Mai, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi comisiynu celfwaith digidol rhyngweithiol ar raddfa fawr a fydd yn cael ei gyflwyno yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.  Bydd y celfwaith yn cynrychioli a choffau’r milwyr Cymreig coll a frwydrodd a fu farw ym Mrwydr y Somme.  Bydd y darn hefyd yn ceisio ymgorffori enwau’r holl filwyr ac yn ystyried ffyrdd arloesol o gyflwyno gwybodaeth am y gwrthdaro i aelodau’r cyhoedd wrth iddynt gerdded o amgylch y gosodiad.

The Opera Platform – In Parenthesis fydd yr opera llawn cyntaf gan Opera Cenedlaethol Cymru i gael ei ffrydio ar The Opera Platform www.theoperaplatform.eu.  Mae The Opera Platform yn cynnig cyfle i garedigion opera a rhai sy’n awyddus i gael blas o opera i wylio perfformiadau yn ogystal â chynnwys tu ôl i’r llwyfan ar-lein trwy lwyfan ar-lein newydd.  Bydd In Parenthesis yn cael ei ddarlledu ar The Opera Platform ar 1 Gorffennaf 2016 a bydd ar gael i’w wylio yn rhad ac am ddim ar y Llwyfan am 6 mis arall ac ar wefan y ARTE TV.  Caiff ail opera gan WNO ei darlledu yn haf 2017.

Prosiectau Ieuenctid a Chymuned­Gan ddefnyddio In Parenthesis fel ysbrydoliaeth, bydd aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru yn gweithio â chymunedau o Gymru a Lloegr mewn lleoliadau lle cafodd adran David Jones eu lleoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i greu opera fechan eu hunain yn seiliedig ar eu hymchwil o’u hanes teuluol Rhyfel Byd Cyntaf eu hunain.  Bydd eu gwaith yn dod i ben gyda pherfformiad o’u hopera i’w teulu a’u cyfeillion.

Mae’r tîm Ieuenctid a Chymuned hefyd yn cyd-weithio gyda sgwadiau sgwennu sefydledig Llenyddiaeth  Cymru yng nghymoedd De Cymru a Chasnewydd i ddatblygu sgiliau ysgrifennu gyda chyflwyniad i ysgrifennu libreto ar gyfer opera.

Cafodd y cân werin draddodiadol enwog Sosban Fach ei chanu yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf a chyfeirir ati gan David Jones yn In Parenthesis.  Yn ogystal â chael ei pherfformio yn yr opera, bydd tîm Ieuenctid a Chymuned WNO yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, ysgolion ac aelodau opera ieuenctid lleol i ddysgu’r gân a’r hanes cysylltiedig i gyfranogion.  Llwyfannir digwyddiadau ‘Dewch i Ganu’ graddfa fawr yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, Amgueddfa Cymru, Wrecsam a Chanolfan Cymry Llundain fel pen llanw’r prosiect.  Mae’r tîm Ieuenctid a Chymuned WNO yn gweithio mewn partneriaeth â CânSing (www.cansing.org.uk), Llenyddiaeth Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Arddangosfa Gelf ar Frwydr Coed Mametz (Art exhibition on the Battle of Mametz Wood) – Bydd canmlwyddiant brwydr Mametz Wood a gwaith David Jones yn cael eu cofio gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â WNO i amlygu gwaith David Jones.  Bydd detholiad pwysig o gelfwaith David Jones gan gynnwys Wyneblun ac Ôl-lun In Parenthesis yn rhan o arddangosfa mawr newydd “Uffern Rhyfel!” Brwydr Mametz Wood mewn Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn agor ar 30 Ebrill 2016.

 

Dyddiadau pwysig:

Dydd Gwener 13 Mai 7.15pm     Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd – Première Byd, In Parenthesis

Dydd Iau 18 Chwefror                Gwefan In Parenthesis yn mynd yn fyw a’r bennod gyntaf yn cael ei sgrinio

Dydd Sadwrn 30 Ebrill               Arddangosfa Gelf ar Frwydr Coed Mametz (Art exhibition on the Battle of Mametz Wood) yn agor i’r cyhoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dydd Gwener 13 Mai 6pm          Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd – Digwyddiad Dewch i Ganu Sosban Fach yng nghyntedd Glanfa

Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd – arddangosfa cyntedd digidol rhyngweithiol (bydd yn aros yn ei lle nes dydd Gwener 1 Gorffennaf)

Dydd Gwener 3 Mehefin            Prif Neuadd, Amgueddfa Caerdydd, Parc Cathays, Digwyddiad Dewch i Ganu Sosban Fach Caerdydd

Dydd Iau 23 Mehefin                 Diwrnod Cenedlaethol CânSing, Wrecsam – Perfformiad Ysgolion Dewch i Ganu WNO

Dydd Gwener 1 Gorffennaf        In Parenthesis ar gael ar The Opera Platform www.theoperaplatform.eu

Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf        Canolfan Cymry Llundain, Llundain – Digwyddiad Dewch i Ganu Sosban Fach