Diwrnod Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf
19 / 02 / 2016Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn fawr i’r rheini a wnaeth fynychu a chyfrannu at Ddiwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhaliwyd ar y cyd â’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol ar 28 Ionawr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd y digwyddiad yn cynnwys lansiad llyfryn Rhaglen 2016 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.
Mae’r adborth sydd wedi dod i law hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Ceir crynodeb o’r digwyddiad yma. Byddwn hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf.
Caiff gwefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ei rheoli gan Gasgliad y Werin Cymru, ac mae’n darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau a newyddion ac am weithgareddau a gynhelir yng Nghymru. Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, bydd y wefan yn parhau i ddangos sut bydd pobl Cymru’n coffáu’r canmlwyddiant pwysig hwn yng Nghymru a thu hwnt drwy gyhoeddi gwybodaeth a geir gan unigolion, cymunedau a sefydliadau. Mae cyfrifon Twitter a Facebook hefyd ar gael.
Gweler isod am wybodaeth ynghylch rhai o’r pynciau a drafodwyd yn y digwyddiadau, gan gynnwys y cyllid grant i ysgolion uwchradd ar gyfer gweithgareddau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf; grantiau Cadw ar gyfer cofebau rhyfel; a cynlluniau grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ymysg eraill. Ceir hefyd ddolen i’r dudalen Partneriaid sy’n cynnwys manylion nifer o’r sefydliadau a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau.
Rydym yn ddiolchgar i’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol am eu cefnogaeth wrth goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dolenni defnyddiol:
Cyllid grant i ysgolion uwchradd ar gyfer gweithgareddau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf:
Grantiau ar gyfer cofebau rhyfel
Partneriaid Cymru’ n Cofio Wales Remembers 1914 -1918
Gwefan Partneriaeth yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
Cynllun Grantiau Rhyfel Byd Cyntaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Gellir gweld rhai o’r delweddau o’r Diwrnod Partneriaeth yn ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol (gweler y dolenni Twitter a Facebook uchod).