Grant Ysgolion Uwchradd ar gyfer coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf
25 / 02 / 2016Mae gan bob ysgol uwchradd yng Nghymru gyfle i wneud cais am grant o £1,000 i ddatblygu prosiectau creadigol ac arloesol i goffáu’r rhyfel.
Bydd y rhaglen goffa yn nodi canmlwyddiant y gwrthdaro a dylai fod yn gyfle i drafod a myfyrio. Gall pob ysgol benderfynu ar ei phrosiect ei hun ond gellid dod ynghyd gydag ysgolion eraill neu ymgymryd â phrosiectau cydweithredol gan gydweithio gyda sefydliadau eraill.
Os oes gennych ddiddordeb i wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais am Grant Ysgolion Uwchradd, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Anfonwch y ceisiadau wedi’u cwblhau drwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol grantcofioRhBc@cymru.gsi.gov.uk
Bydd manylion perthnasol a gwybodaeth ychwanegol ar gael yn y ffurflen gais. Bydd y grant ar gael tan fis Mawrth 2018.
Nod y rhaglen yw cynorthwyo pobl ifanc i ddod i ddeall am ddigwyddiadau a chanlyniadau’r gwrthdaro gan wneud cysylltiadau â digwyddiadau coffáu ehangach yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf sy’n digwydd o gwmpas y byd.
Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Fe welwch ar y wefan wybodaeth am newyddion, digwyddiadau a’r prosiectau diweddaraf a chewch hefyd wybodaeth am weithgareddau coffaol sy’n ymwneud â Chymru rhwng 2014 a 2018.
LAWRLWYTHO DOGFEN
Nod y Brand (Maint ffeil: 1MB)
Cais engreifftiol a gwerthusiad: Ysgol Uwchradd Fitzlan (Maint ffeil: 250KB)
Cais engreifftiol a gwerthusiad: Ysgol Gyfun Aberaeron (Maint ffeil: 250KB)
Cais am grant ac arweiniad (Maint ffeil: 400KB)