Copi o’r Gadair Ddu ym Mrwsel
17 / 03 / 2016Ar 2 Mawrth 2016, copi o’r Gadair Ddu oedd canolbwynt y sylw yn y digwyddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnal ym Mrwsel bob Gŵyl Dewi. Roedd y digwyddiad yn llwyfan gwych i arddangos Cymru a chynnyrch y wlad. Fe’i fynychwyd gan dros 300 o bobl gan gynnwys Gweinidog Cyllid a Busnes Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AC, Aelodau Senedd Ewrop a phersonél â chysylltiadau â diwylliant ac economi yng Nghymru a’r tu hwnt.
Drannoeth (3 Mawrth) cafodd y Gadair ei symud i Senedd Fflandrys lle rhoddodd Llefarydd y Senedd, Jan Peumans, groeso iddi mewn digwyddiad arbennig. Roedd y derbyniad, a drefnwyd yn garedig gan Senedd Fflandrys, yn dwyn ynghyd unigolion o wledydd amrywiol, gan gynnwys Llysgennad Prydain yng Ngwlad Belg, i gofio’r cysylltiadau rhwng Cymru a Fflandrys, yn enwedig y rheini mewn perthynas â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd yn bresennol oedd Maer Sint-Niklaas, Mr Lieven Dehandschutter, a anerchodd y gwesteion yn y Gymraeg a’r Iseldireg, gan rannu stori Hedd Wyn a chyswllt Fflandrys â Chymru.
Cafodd ymwelwyr gyfle i weld y copi trawiadol 6 troedfedd o faint o Gadair Ddu wreiddiol Hedd Wyn a grëwyd gan ddefnyddio’r dechnoleg argraffu 3D ddiweddaraf yng Nghymru. Cafodd y copi ei ddadorchuddio gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn y Senedd yng Nghaerdydd ar 13 Ionawr 2015. Crëwyd y gadair mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru. Dyfarnwyd y gadair i Hedd Wyn am ei awdl Yr Arwr yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917, chwe wythnos ar ôl iddo gael ei ladd yn ystod Brwydr Pilkem Ridge yn Fflandrys ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Cafodd y gadair ei gorchuddio â llen ddu yn ystod y seremoni gadeirio, a dyna sut y cafodd ei henw a sut y cafodd ei serio yng nghof y genedl.
Arhosodd y Gadair yn Swyddfeydd Gweinyddiaeth Senedd Fflandrys tan 8 Mawrth.
Dyma beth oedd gan yr Athro Syr Deian Hopkin, Cynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf i’w ddweud wrth annerch y cyfarfod ar ran Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918:
“Mae wedi bod yn fraint dod i’r digwyddiad hwn i gynrychioli’r Prif Weinidog a Bwrdd Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918.
Mae’n briodol bod y copi o’r Gadair Ddu wedi’i arddangos ym Mrwsel a Senedd Fflandrys. Crëwyd y gadair gan Eugeen VanFleteren, ffoadur o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n ein hatgoffa o gyfraniad diwylliannol cynifer o ffoaduriaid o Wlad Belg a Fflandrys a ddaeth i Gymru yn ystod y rhyfel. Ar yr un pryd, mae’r Gadair yn gyfle inni fyfyrio ar farwolaeth drasig Hedd Wyn ac am yr holl unigolion talentog eraill a gollwyd yn ystod y rhyfel ofnadwy hwnnw. Wrth i ddigwyddiadau coffáu’r canmlwyddiant barhau, mae’r cyswllt rhwng arweinydd, cymunedau a phobl Fflandrys a Chymru’n cael eu cryfhau ac edrychwn ymlaen at weithio eto gyda’n gilydd dros y blynyddoedd i ddod. Mae pob un ohonom yn ddiolchgar iawn i Senedd Fflandrys am estyn croeso mor gynnes inni. ”