MYNEGWCH EICH DIDDORDEB MEWN MYNYCHU DIGWYDDIAD I NODI CANMLWYDDIANT BRWYDR COED MAMETZ
27 / 04 / 2016Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yng Ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf i goffáu cyfraniad y 38ain Adran (Gymreig) i Frwydr Coed Mametz 100 mlynedd yn ôl.
Bydd y digwyddiadau’n dechrau ar 7 Gorffennaf gyda gwasanaeth coffa o flaen Cofeb Genedlaethol y Cymry yn Mametz i nodi canmlwyddiant Brwydr Coed Mametz. Trefnir Y Cymry yng Nghoed Mametz 1916: Y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol gan gangen De Cymru o Gymdeithas y Ffrynt Orllewinol gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Os hoffech chi fynychu’r gwasanaeth coffa yn Ffrainc, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad drwy ddarparu enwau llawn, dyddiadau geni a rhifau pasbort pob gyrrwr a theithiwr yn ogystal â rhif cofrestru’r cerbyd. Anfonwch y manylion erbyn 13 Mai fan bellaf at: philgreenisha@btinternet.com
Caiff yr wybodaeth hon ei gwirio gan yr heddlu lleol, bydd hefyd yn gofyn i gael gweld eich pasbort pan fyddwch yn cyrraedd y safle. Mae’n bwysig nodi os na fyddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad ymlaen llaw, ni fyddwch yn cael mynediad i’r gwasanaeth coffa ar 7 Gorffennaf. Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi gofyn am yr wybodaeth hon i sicrhau diogelwch pawb sy’n bresennol yn y digwyddiad.
Mae Cofeb Genedlaethol y Cymry i’w gweld yng nghefn gwlad ar gyrion pentref Mametz yn Picardie uwchben Coed Mametz lle bu farw neu anafwyd tua 4,000 o ddynion yn ystod Brwydr Coed Mametz, rhan o Frwydr y Somme, un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gofeb yn coffáu y rhai a fu farw o’r 38ain Adran (Gymreig).
Dywedodd Phil Davies, Ysgrifennydd Cymdeithas y Ffrynt Orllewinol: “Bydd hwn yn achlysur trist a dwys i nodi canmlwyddiant Brwydr Coed Mametz a chofio aelodau’r 38ain Adran (Gymreig) a gymerodd rhan ac a gollodd eu bywydau.
“Rydyn ni’n disgwyl llawer o bobl i deithio i Ffrainc ar gyfer y digwyddiad ac mae croeso mawr i bawb a hoffai ddod. Ond oherwydd cyfyngiadau diogelwch uwch yn Ffrainc, bydd rhaid i unrhyw un sy’n dymuno mynychu Y Cymry yng Nghoed Mametz 1916: Y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth bersonol, fanwl cyn y digwyddiad.”
Mae digwyddiadau eraill a gynlluniwyd yn cynnwys cyngerdd gan Gôr Meibion Treorci ym Masilica Notre-Dame de Brebières sydd yn y dref gyfagos, Albert, a gwasanaethau coffa eraill mewn mynwentydd eraill lle cafodd nifer o filwyr o Gymru eu claddu.
Noder fod Coed Mametz ar dir preifat ac ni fydd modd cael mynediad i’r coed.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Phil Davies
philgreenisha@btinternet.com