Cronfa Dreftadaeth y Loteri – Gweithdy Ariannu ar gyfer prosiectau Rhyfel Byd Cyntaf
18 / 05 / 2016Dydd Mawrth 28 Mehefin 2016
Archifau Morgannwg, Caerdydd
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud rhywbeth i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru?
Ydych chi wedi meddwl am wneud cais i’r rhaglen grant CDL Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw?
Bydd tim Cymru CDL yn cynnal sesiwn wybodaeth Rhyfel Byd Cyntaf ar 28 Mehefin yn Archifau Morgannwg yng Nghaerdydd rhwng 10yb – 3yp ar gyfer cyfranogwyr sydd am wneud cais am gyllid i gynnal prosiect am gamlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oes angen syniad cadarn am brosiect—dewch i gael mwy o wybodaeth.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Golwg gyffredinol gan CDL am y cyllid sydd ar gael
- Cyflwyniadau gan gydweithwyr canolfan ymgysylltu yn amlinellu awgrymiadau a chefnogaeth y gallant ei gynnig
- Astudiaethau achos gan prosiectau sydd wedi derbyn arian CDL
- Gwybodaeth gan gydweithwyr o bartneriaid cymunedol am y cymorth sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru
- Cyfle i drafod syniadau ar gyfer prosiectau gyda staff datblygu CDL a phartneriaid cymunedol eraill yn y prynhawn
Mae llefydd yn gyfyngedig ac mae bwcio yn hanfodol. I gael lle ewch i’r dudalen Eventbrite, gyrrwch ebost at cymru@hlf.org.uk neu rhowch alwad ar 029 2023 4142.
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal yn Archifau Morgannwg, Caerdydd, CF11 8AW