Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad Prosiect Yn Fyw yn y Cof
08 / 06 / 2016Mae Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn galw ar grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled Cymru ac yn y DU i ddathlu Canmlwyddiant y Somme gyda’r prosiect Yn Fyw yn y Cof.
Mae’r prosiect yn cofio am y ffrynt sy’n angof – y 300,000 o feddau’r rhyfel neu gerrig coffa yma yn y DU, gyda’r rhan fwyaf o bobl lai na thair milltir oddi wrth eu safle agosaf.
Mae dros 7,700 o feddau Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ledled Cymru mewn mwy na mil o leoliadau. Gall y rhain amrywio o’r safle mwyaf yn Cathays, Caerdydd sydd â dros 600 o feddau i gerrig coffa unigol mewn mynwentydd gwledig bach. Mae pob safle a bedd yn stori unigol yn aros i gael ei harchwilio a’i chofio.
Drwy gydol brwydr y Somme a barodd 141 o ddiwrnodau, rhwng 1af o Orffennaf a’r 18fed o Dachwedd 2016, gall cymunedau Ddarganfod, Archwilio a Chofio eu beddau rhyfel lleol drwy’r prosiect.
Mae Yn Fyw yn y Cof yn cynnig adnoddau i helpu grwpiau cymunedol i nodi pa safleoedd y Comisiwn sy’n agos atyn nhw, i ddarganfod mwy am y sawl sydd wedi’i gladdu yno ac i drefnu digwyddiad cofio – yn eu ffordd eu hunain ac yn adlewyrchu eu diddordebau eu hunain – i ddathlu 141 o ddiwrnodau’r Somme.
Mae arian ar gael hefyd i gefnogi grwpiau ac ysgolion i gymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cwgclivingmemory.org neu e-bostiwch livingmemory@cwgc.org i ofyn am becyn adnoddau am ddim a gwybodaeth am arian. www.facebook.com/CWGC-Living-Memory @CWGC #LivingMemory #YnFywYnYCof
Ariennir y prosiect gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a rhoddir arian datblygu gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad Prosiect Yn Fyw yn y Cof (PDF – 2.46mb)
I gael cymorth i ddod o hyd i feddau rhyfel lleol yn agos atoch chi yng Nghymru, dilynwch y dolenni isod:
http://www.rwfmuseum.org.uk/cym/index.html
http://www.cymrudrosheddwch.org/wfp/erthygl.html?id=35
Ar gyfer ffynonellau ariannu eraill a allai gefnogi eich prosiect Yn Fyw yn y Cof, dilynwch y dolenni isod:
https://cymraeg.hlf.org.uk/looking-funding/our-grant-programmes/first-world-war-then-and-now
https://www.cymruncofio.org/secondary-school-grant-funding-for-first-world-war-commemorations/
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Cofio Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru dilynwch y dolenni isod:
http://www.cymrudrosheddwch.org/wfp/hafan.html