NEWYDDION

Digwyddiad yn y gymuned i nodi canmlwyddiant Fron-goch

10 / 06 / 2016

frongoch

Bydd cymuned Fron-goch, ger y Bala, yn dod ynghyd heddiw [dydd Sadwrn, 11 Mehefin] i goffáu canmlwyddiant digwyddiad arwyddocaol yn ei hanes pan ddaethpwyd â dros 1,800 o garcharorion o Iwerddon i gefn gwlad Cymru.

Roedd gwersyll Fron-goch wedi cael ei ddefnyddio eisoes ar gyfer carcharorion o’r Almaen, ac ar 11 Mehefin 1916, cyrhaeddodd carcharorion o Iwerddon ar ôl Gwrthryfel y Pasg. Arhoson nhw yn Fron-goch tan fis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Bydd yr ysgol leol, sydd wedi’i hadeiladu ar ran o safle’r gwersyll, yn cymryd rhan yn y digwyddiad. Y nod yw creu ymwybyddiaeth a meithrin dealltwriaeth yn lleol am hanes yr ardal yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’n cynnwys arddangosfa yn Ysgol Bro Tryweryn, teithiau cerdded o amgylch y safle, a chyfres o siaradwyr, gan gynnwys Llysgennad Iwerddon, Daniel Mulhall.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei hwyluso gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn rhan o raglen ddigwyddiadau Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 sy’n coffáu digwyddiadau allweddol ledled y byd yn ystod y cyfnod hwn ac sydd hefyd yn edrych ar yr effaith a gawsant ar gymunedau yng Nghymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Fron-goch.

Panel-Gwersyll-y-de-a-gogledd-2.jpg2

Dywedodd y Llysgennad Daniel Mulhall, Llysgennad Iwerddon: “Dw i’n falch o gael cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’r gymuned leol yng Ngogledd Cymru wrth iddyn nhw gofio hanes Fron-goch. Cafodd rhyw 1,800 o Wyddelod eu caethiwo yn Fron-goch ar ôl Gwrthryfel y Pasg yn 1916 ac mae gan Fron-goch le arwyddocaol yn hanes Cymru ac Iwerddon. Dw i’n arbennig o falch o weld brwdfrydedd y gymuned leol wrth iddi ymroi i’r coffáu. Wrth inni nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg, a oedd yn ddigwyddiad mor dyngedfennol yn hanes Iwerddon, mae prosiectau fel hwn yn gyfle i edrych ar yr hanes cyffredin sydd gennym, i fod yn gynhwysol wrth gofio’r gorffennol, ac i ystyried a hyrwyddo’r llwybr cymod y mae Iwerddon a Phrydain wedi bod yn ei droedio ers degawdau bellach.”

Dywedodd y Cynghorydd  Elwyn Edwards, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chadeirydd Pwyllgor Fron-goch: “Mae prosiect

Fron-goch 1916-2016 wedi dod â chymuned Fron-goch ynghyd i gofio cyfnod rhyfeddol yn hanes yr ardal hon. Drwy goffáu’r canmlwyddiant hwn, rydym yn tynnu cymunedau yng Nghymru ac Iwerddon at ei gilydd i gofio’r hanes rydym yn ei rannu. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn fodd inni feithrin ymwybyddiaeth o’n hanes a’n diwylliant o fewn y gymuned leol a thu hwnt, ac rydym yn ddiolchgar i staff a disgyblion Ysgol Bro Tryweryn am eu cyfraniad sylweddol i’r prosiect.”

Panel-Gwersyll-y-de-a-gogledd-1

Dywedodd Heledd Wyn Owen, Pennaeth  Ysgol Bro Tryweryn: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Fron-goch ar gyfer yr achlysur arbennig hwn yn hanes yr ardal. Mae’r plant wedi cael modd i fyw yn dysgu am hanes yr ardal a’u treftadaeth. Bu’r disgyblion ynghlwm a nifer o brosiectau gwahanol gan gynnwys llunio cerdd goffa gyda’r Prifardd Myrddin ap Dafydd, cyfansoddi alaw a chân i’r gerdd gyda Robat Arwyn, a chreu murlun yn dehongli’r hanes gyda’r Crochenydd Neil Dalrymple. Fe fydd y plant yn edrych ymlaen at berfformio eu cân ar y diwrnod”.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yn gyfle i bobl ifanc ddeall eu hanes, ac i ddysgu am yr effaith a gafwyd ar eu hardal leol yn sgil y digwyddiadau cythryblus ledled y byd rhwng 1914 a 1918. Cyffyrddwyd â phob cwr o Gymru mewn rhyw ffordd yn ystod y cyfnod hwnnw,  ac mae’n bwysig bod cymunedau yn dod ynghyd i goffáu’r digwyddiadau hynny.

“Da o beth yw gweld bod yr ysgol leol wedi bod yn rhan annatod o’r coffáu. Bydd y bobl ifanc hynny yn fwy ymwybodol bellach o hanes eu hardal a’r cysylltiad rhyngddi a gweddill y byd.”