NEWYDDION

Gŵyl gerdd yn dathlu hanes Rhyfel y Pasg, a chyfraniad Cymru mewn perfformiad unigryw.

17 / 06 / 2016

Doc76Gŵyl gerdd yn dathlu hanes Rhyfel y Pasg, a chyfraniad Cymru mewn perfformiad unigryw.

Cafodd Rhyfel y Pasg can mlynedd yn ôl fwy o effaith ar Gymru nag a dybir gan lawer; bydd gŵyl gerdd hynaf Cymru yn datgelu’r hanes fel rhan o’r thema Wyddelig nes ymlaen y mis hwn.

Mae Gŵyl Gregynog yn cydweithio gyda rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 Llywodraeth Cymru, fel rhan o ddathliadau cenedlaethol Cymru i goffáu’r rhyfel byd cyntaf, sy’n cynnwys hanes gwersyll Fron-goch, ger y  Bala, lle carcharwyd 1,800 o Wyddelod fu’n cymryd rhan yn Rhyfel y Pasg, rhwng Mehefin a Rhagfyr 1916.

Bydd cerddoriaeth, drama a chyflwyniadau a ysbrydolwyd gan y Rhyfel a Fron-goch yn rhan o raglen yr ŵyl dros y pythefnos rhwng 24 – 26 Mehefin yng Nghanolbarth Cymru.

Yn Neuadd Bentref Llandinam ar 24ain Mehefin, bydd yr ŵyl yn croesawu cwmni theatr flaenllaw o Ddulyn gyda’r perfformiad o ‘Rebel, Rebel’ fel rhan o’r digwyddiadau i nodi’r canmlwyddiant, ac yn dilyn hynny, bydd tri digwyddiad unigol yn canolbwyntio ar hanes Fron-goch ar 25ain Mehefin yn Neuadd Gregynog ar gyrion pentref Tregynon, ger Y Drenewydd, Powys.

Bydd Lyn Ebenezer, newyddiadurwr a darlledwr yn rhoi cyflwyniad ar ei ymchwil diweddaraf i’r gwersyll am 2.30pm ar 25ain Mehefin.

Mae Lyn yn arbenigo yn hanes Fron-goch ac yn ei lyfr ar y gwersyll, mae’n sôn am enw amgen Fron-goch – sef  ‘Prifysgol y Chwyldro’ gan fod unigolion megis Michael Collins ac Arthur Griffith oedd yn flaengar iawn yn y frwydr dros annibyniaeth i’r Iwerddon, ymhlith y carcharorion yn y gwersyll.

Wedyn am 7.30 pm yn dilyn cyflwyniad Lyn, bydd cyngerdd yng nghwmni’r ‘Fidelio Trio’, ac ar eu rhaglen nhw bydd cyfle i fwynhau’r perfformiad cyntaf erioed o waith comisiwn Gŵyl 2016 gan y cyfansoddwr Gwyddelig,  Sam Perkin.

Mae’r triawd piano hwn ymysg y grwpiau gorau ac eleni roeddynt ar restr fer Gwobrwyon enwog yr RPS ar gyfer yr ensemble siambr gorau.  Ysbrydolwyd y gwaith newydd a gyfansoddodd Sam Perkin ar eu cyfer gan waith ymchwil Lyn Ebenezer, ac mae Sam yn teithio i Neuadd Gregynog o Ffrainc yn arbennig i roi cyflwyniad cyn y cyngerdd ar ei waith newydd am 6.30pm.

Bydd Sinéad Morrissey, Bardd Llawryfog cyntaf Belfast, yn ymuno â’r Triawd i ddarllen detholiadau o’i gwaith fel rhan o’r cyngerdd.

Mae thema Rhyfel y Pasg yn parhau ar ddiwrnod ola’r Ŵyl pan fydd ‘Chamber Choir Ireland’, dan arweiniad Paul Hillier, yn rhoi’r perfformiad cyntaf ym Mhrydain o ‘A Half Darkness’ gan Stephen McNeff, y cyfansoddwr a anwyd yn yr Iwerddon, ond a fagwyd yn ne Cymru (Gregynog, 26 Mehefin, 2.30pm).

Mae swyddfa docynnau Gŵyl Gregynog newydd agor, ac mae tocynnau ar gael trwy: www.gregynogfestival.org neu drwy ffonio 01686 207100.

Sefydlwyd yr ŵyl ym 1933 gan y chwiorydd dyngarol Gwendoline a Margaret Davies, wyresau David Davies oedd yn enwog am adeiladu rheilffyrdd ac fel perchennog glofeydd yn ystod cyfnod Fictoria.  Cynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ar draws Canolbarth Cymru, gan gynnwys cyn gartref y chwiorydd Davies, Neuadd  Gregynog.

“Hwn fydd y cyfle cyntaf i glywed gwaith comisiwn Gŵyl 2016 gan Sam Perkin, a bydd y digwyddiadau ar thema Fron-goch yn apelio at bobl sy’n mwynhau hanes a llenyddiaeth, yn ogystal â cherddoriaeth,” meddai Dr Rhian Davies.

“Mae rhaglen y pythefnos yn llawn a bydd yn cynnwys cerddorion, actorion a beirdd byd enwog o’r Ynys Werdd, a’r gobaith yw denu cryn dipyn o ddiddordeb.”

Bydd Jordi Savall yn dychwelyd i Ganolbarth Cymru eto yng nghwmni Martin Hayes, y ffidlwr gwerin anhygoel sy’n hanu o Co. Clare, ac ymhlith cerddorion eraill o’r Iwerddon fydd yn ymuno â ni mae ‘Chamber Choir Ireland’, Ailish Tynan y soprano, y pianydd Finghin Collins a’r delynores Siobhan Armstrong gyda’r ‘Irish Consort’.

Ymhlith yr ymwelwyr o dramor bydd Mahan Esfahani o Iran sy’n arbenigo mewn canu’r harpsicord, yr ensemble Nevermind sy’n perfformio cerddoriaeth Ffrengig gynnar, a’r ‘Academy of Ancient Music’, dan arweiniad y feiolinydd Bojan Cicic o Groatia.

Mae’r Ŵyl yn un o Ddigwyddiadau Unigryw Llywodraeth Cymru, sy’n denu ymwelwyr bob blwyddyn o bedwar ban byd i leoliadau ar hyd a lled Canolbarth Cymru, megis Neuadd Gregynog, ger Y Drenewydd, Powys, lle bu’r Chwiorydd Davies yn byw pan sefydlwyd yr ŵyl i ddathlu cerddoriaeth a’r celfyddydau.

Yn ogystal â sicrhau sylw ar lefel ryngwladol i Ganolbarth Cymru ym myd cerddoriaeth a’r celfyddydau, mae Gŵyl Gregynog yn chwarae rhan bwysig mewn perthynas â chefnogi’r economi lleol, trwy ddenu ymwelwyr a chodi proffil yr ardal.