1916 yn Iwerddon a Chymru
17 / 08 / 20161916 yn Iwerddon a Chymru
Blwyddyn allweddol yn hanes yr Iwerddon fodern yw 1916. Dyddiad arwyddocaol yn hanes y Gymru fodern ydyw hefyd. Gesyd y gynhadledd hon y profiadau hynny ochr-wrth-ochr ac yn gofyn cwestiynau newydd amdanynt. Y cysylltiad uniongyrchol rhyngddynt yw pentref anghysbell yng ngogledd Cymru. Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg 1916 carcharwyd gweriniaethwyr mewn gwersyll yn Fron-goch oedd wedi dal carcharorion rhyfel o’r Almaen. Ymhlith y carcharorion Gwyddelig oedd Michael Collins a dynion eraill a fyddai’n chwarae rhan bwysig yn y chwyldro Gwyddelig. Cafodd Fron-goch ei chofio a’I mytholegu wedyn fel ‘Prifysgol Chwyldro’.
Disgrifir y profiad hwn gan un o’r siaradwyr yn y gynhadledd, Ei Ardderchowgrwydd Daniel Mulhall, Llysgennad Iwerddon i Brydain Fawr, fel a ganlyn:
‘Mae gan Fron-goch le arbennig iawn yn hanes Iwerddon modern, oherwydd mai yno y treuliodd 1,800 o garcharorion o Iwerddon gyfnod ffurfiannol wedi Gwrthryfel y Pasg. Cafodd yr amser a dreuliwyd yn Fron-goch effaith fawr ar fywydau’r sawl fu yno a’u cyfraniad diweddarach at frwydr Iwerddon am annibyniaeth.’
Wrth gydnabod pwysigrwydd y profiad hwn ar gyfer y Gymru fodern, dywed Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru:
‘Mae arwyddocad Fron-goch yn hanes Iwerddon yn yr ugeinfed ganrif yn stori werth ei dweud wrth bobl y ddwy genedl. Mae Fron-goch yn rhan o hanes Cymru adeg y Rhfel Byd Cyntaf ac mae’n parhau fel cyswllt arhosol rhwng Iwerddon a Chymru.’
Y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n darparu’r cyd-destun ar gyfer trafodaeth am y ddwy wlad yn y gynhadledd. Yn ôl yr Athro Syr Deian Hopkin, Cynghorydd Arbenigol Prif Weinidog Cymru ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘Cymerodd Cymru ddiddordeb arbennig yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan bod cynifer o ddigwyddiadau allweddol wedi cymryd lle yn ystod y frwydr honno, yn cynnwys colli bywydau Cymry ac, yn yr un modd, colli’r potensial am ddyfodol Cymreig.’
Y Gynhadledd
Cymer y gynhadledd hon Fron-goch fel bachyn ar gyfer ail-asesu ystyron gwahanol 1916, ac nid yn unig ar gyfer gweriniaethwyr Gwyddelig. Dyma flwyddyn Brwydr y Somme, pan greodd golledion arswydus Gwarchodlu’r 36ain (Ulster) aberth gwaed a ddaeth yn rhan o draddodiad yr Unoliaethwyr. Yn rhan o frwydr cyntaf y Somme hefyd oedd ymosodiad costus Gwarchodlu’r 38ain (Cymreig) ar Goedwig Mametz, digwyddiad sy’n cael ei goffáu yn weledol gan yr arlunydd Christopher Williams ac mewn print gan y beirdd Robert Graves a David Jones, y ddau ohonynt a gymerodd ran yn yr ymladd. Caiff y ddau brofiad eu coffau gyda safleoedd sefydlog yn Ffrainc. Yn wleidyddol, 1916 oedd y flwyddyn pan ddaeth y gwleidydd Cymreig David Lloyd George yn brif weinidog ar ymerodraeth mewn rhyfel.
Mae’r digwyddiadau hyn yn codi cwestiynau ehangach am arwyddocad 1916 yn Iwerddon a Chymru, swyddogaeth y digwyddiadau hynny mewn cyd-destunau diwylliannol a gwleidyddol cyferbyniol, a’r ffordd maen nhw wedi cael eu dehongli a’u coffáu.
I gofrestru
Bydd y Cynhadledd un Dydd a Drefnwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Cymru-Iwerddon, gyda chefnogaeth gan raglen canmlwyddiant Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914- 1918 a Llywodraeth Cymru yn cael I cynal a 14 Medi 2016, yn Ystafell A14, Adeilad Hugh Owen, Campws Pengais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion.
Bydd y Cynhadledd yn rhad ac am ddim ond mae angen cofrestru ymlaen llaw….
Am ragor o wybodaeth Cysylltwch â: history-enquiries@aber.ac.uk. Mewn pob e-bost dyfynbris: ‘1916 in Ireland and Wales’’ Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918’ yn y blwch pwnc
Diolchiadau
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cymru-Iwerddon yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyllido’r gynhadledd, trwy raglan canmlwyddiant Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918. Meddai’r Athro Syr Deian Hopkin:
‘Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Mae’n ganolbwynt ar gyfer y newyddion, y prosiectau a’r digwyddiadau diweddaraf, a’r gwasanaethau cyfeirio ar gyfer y coffâd rhwng 2014 a 2018.
Llywodraeth Cymru sy’n cydlynu’r Rhaglen, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff allweddol ledled Cymru a thu hwnt.’
Dolenni Defnyddiol:
Gwefan: www.cymruncofio.org
Twitter: @cymruncofio
Facebook: 1916inirelandandwales a Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918