NEWYDDION

Tocynnau’r ‘Pabi Coch’ ar gyfer Castell Caernarfon yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd

18 / 08 / 2016

Tocynnau’r ‘Pabi Coch’ ar gyfer Castell Caernarfon yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd

2016-08-18_16h23_37

Mae tocynnau ar gyfer y cerflunwaith pabi coch eiconig Weeping Window wedi’u rhyddhau i’r cyhoedd heddiw (22 Gorffennaf). Dyma’r tro cyntaf i’r arddangosfa gael ei chynnal yng Nghymru.

Mae’r gwaith celf trawiadol Weeping Window sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf — ac sy’n cynnwys miloedd o babis coch cerameg, yn cael ei arddangos yng Nghastell Caernarfon o 12 Hydref 2016, fel rhan o daith a drefnwyd gan 14–18 NOW, sy’n rhaglen gelfyddydau’r Deyrnas Unedig i ddathlu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y gosodiad celf i’w weld yn ddyddiol o fewn muriau’r castell hyd at 20 Tachwedd sy’n golygu y bydd yn agored i’r cyhoedd ar Sul y Cofio yn ogystal â chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme (17 Tachwedd). Bydd cannoedd o babis coch yn llifo o’r Tŵr Gwylio o fewn muriau’r castell ac yna allan i’r tir glas islaw.

Bydd tocynnau ar gyfer y bore a’r prynhawn ar gael am ddim ar-lein ar Eventbrite Cadw. Bydd 1,000 o bobl yn cael mynediad wrth y drws pob dydd.

Mae’r Weeping Window yn un o ddau gerflunwaith a gymerwyd o osodiad celf Blood Swept Lands a Seas of Red. Yr arlunydd Paul Cummins a greodd y cysyniad gwreiddiol o’r pabis a dyluniwyd y gosodiad gan Tom Piper – Paul Cummins Ceramics Ltd. mewn cydweithrediad a’r Historic Royal Palaces.

Yn wreiddiol, roedd y gosodiad yn Nhŵr Llundain, rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014, lle arddangoswyd 888,246 o babis coch, pob un yn coffáu ac yn anrhydeddu bywyd milwr a gollwyd o fyddinoedd Prydain a’r Trefedigaethau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith celf gwreiddiol, a ddenodd fwy na phum miliwn o ymwelwyr yn 2014, mae NOW 14–18 yn cyflwyno ‘Weeping Window’ ac ail waith celf, sef, Wave, mewn amryw o lefydd ar draws y Deyrnas Unedig trwy gydol canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe drefnodd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, i lunio cais i gynnal y gwaith celf coffaol hwn yng Nghastell Caernarfon yn Nhachwedd 2015. Bu’r cais yn llwyddiannus ac mae’r rhaglen yn anelu at gynnal diddordeb cenedlaethol bellach ynghylch treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates:

“Fel llawer o wledydd Ewropeaidd, profodd pobl Cymru golled ar raddfa sy’n amhosib i ni ei hamgyffred yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nawr, gydag ymweliad arddangosiad o’r Weeping Window â Chastell Caernarfon, bydd cyfle unigryw i bobl Cymru heddiw i fod yn rhan o’r profiad o fyfyrio a choffáu’r rhai a gollwyd.

“Rydym ni’n falch iawn o fod wedi arwain rhaglen o gofio ar ran y genedl. Mae rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918 yn falch o gynnwys arddangosiad o gerflunwaith y Papi Coch fel cyfraniad i’r digwyddiadau i goffáu sydd wedi’u trefnu gan sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru.

“Gyda mwy na 700 mlynedd o hanes a Statws Treftadaeth Byd i’w enw, ni allwn feddwl am le balchach na gwell i’r cerflunwaith, ac rwy’n annog pobl i ddod i weld y digwyddiad diwylliannol arwyddocaol hwn iddyn nhw gael eu hatgoffa o gost un o ryfeloedd mwyaf y ddynoliaeth.”

Mae cefnogaeth gan y Backstage Trust a’r Clore Duffield Foundation wedi galluogi 14–18 NOW i ddod â Weeping Window a Wave i nifer dethol o leoliadau arbennig am gyfnod byr, cyn iddyn nhw gael eu rhoi i’r Amgueddfeydd Rhyfel Imperial yn 2018.

Yn ogystal â’r gosodiad celf, bydd Llyfr Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei arddangos yn Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig, a leolir ar dir y castell. Bydd ymwelwyr yn gallu pori trwy enwau’r 35,000 o ddynion a merched o Gymru a gollodd eu bywydau. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am brofiadau’r milwyr, beth oedd effeithiau colli cenhedlaeth ar gymunedau lleol ynghyd â dysgu gwersi ar gyfer heddiw.

I sicrhau tocynnau ymlaen llaw ar gyfer Weeping Window yng Nghastell Caernarfon ewch i www.caernarfonpoppies.eventbrite.co.uk.


Digwyddiad: Weeping Window yng Nghastell Caernarfon

Dyddiad / Amser: Ar agor yn ddyddiol, 12 Hydref–20 Tachwedd 2016

Lleoliad: Castell Caernarfon

Gwybodaeth: Gwahoddir ymwelwyr i ymweld â Weeping Window — y gosodiad celf godidog a ffurfiodd ran o arddangosfa Pabis Coch gwreiddiol Tŵr Llundain — yn ystod ei gyfnod preswyl yng Nghastell Caernarfon.

Archebu: Gellir archebu tocynnau ar gyfer y bore a phrynhawn ymlaen llaw drwy www.caernarfonpoppies.eventbrite.co.uk. Bydd 1,000 o docynnau ychwanegol ar gael wrth y drws bob dydd.

Cost: Am ddim


Arddangosfa’r Pabi Coch — ffeithiau diddorol

  • Roedd y gosodiad celf gwreiddiol Blood Swept Lands and Seas of Red yn cynnwys 888,246 o’r pabi coch — un i goffáu pob marwolaeth yn y lluoedd Prydeinig a Threfedigaethol yn ystod y rhyfel.
  • Daeth mwy na phum miliwn o ymwelwyr i’w weld yn ystod ei amser yn Nhŵr Llundain.
  • Mis Hydref fydd y cyfle cyntaf i weld arddangosiad o’r Weeping Window yng Nghymru — a hynny yng Nghaernarfon
  • Mae Castell Caernarfon yn un o bedwar castell ar hyd arfordir gogledd Cymru sy’n ffurfio safle Treftadaeth Byd UNESCO
  • Bydd pobl sy’n dod i weld arddangosiad o’r Pabi Coch hefyd yn medru cyfuno’r daith gydag ymweliad ag Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a leolir ar dir castell Caernarfon.
  • Bydd arddangosiad y Pabi Coch ar agor i ymwelwyr yng Nghaernarfon ar Ddydd Sul y Cofio (11 Tachwedd) a Chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme (17 Tachwedd)