NEWYDDION

Diwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf 2017

12 / 10 / 2016

Yn dilyn llwyddiant Diwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015 a 2016, fe’ch gwahoddir i fynychu Diwrnod Partneriaeth 2017 ym Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, ar 26 Ionawr 2017. Gwahoddir sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ar brosiectau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, boed yn fach neu’n fawr, i fynychu.

Partnership day 2016 group discussion image

Partnership day 2016 group discussion image

Nod y digwyddiad fydd:

  • Rhoi trosolwg o’r cynlluniau cenedlaethol i nodi’r canmlwyddiant yn 2017
  • Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
  • Ysbrydoli prosiectau a gwaith partneriaeth ar gyfer 2017 a thu hwnt
  • Rhoi trosolwg o’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu ar draws Cymru i nodi’r canmlwyddiant
  • Trafod y coffáu yng Nghymru hyd yma a rhannu gwersi a ddysgwyd.

Ceir adolygiad o’r digwyddiadau a gynhaliwyd y llynedd yma.

Cynhelir y digwyddiad gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, a Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a arweinir gan Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol.

I gadw lle e-bostiwch extranet1914@iwm.org.uk gan nodi eich enw, eich sefydliad ac unrhyw anghenion deietegol neu o ran mynediad. Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin, a bydd lle i 4 cynrychiolydd o bob sefydliad.

Agenda fras ar gyfer y diwrnod:

9:45 – Cyrraedd a chofrestru

10:00 – Rhwydweithio gyda the a choffi

10:15 – Croeso a lansiad Rhaglen 2017 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918

10:40 – Cyflwyniad ar Brosiect Coffâd

11:00 – 12:15 – Trafodaeth Grŵp (sesiwn 1). Trafodaeth yn seiliedig ar Wersi a ddysgwyd a rhannu syniadau.

12:15 – 13:00 – Cinio a rhwydweithio

13:00 – 13:30 – Cyfle arall i ymweld â stondinau sefydliadau a rhwydweithio

13:30 – 14:45 – Trafodaethau Grŵp (sesiwn 2) Trafodaeth yn seiliedig ar Gynlluniau ar gyfer gweddill y coffáu

14:45 – Slot meicroffon agored ar gyfer diweddariadau unigol a chwestiynau (uchafswm o 5 munud pob un)

15:30 – Sylwadau cau a gair o ddiolch gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ac Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol.

15:40 – Te a choffi cyn  gadael

15:50 – Diwedd

I nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae dros 3,400 o sefydliadau o 57 gwlad wedi ymuno â Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a arweinir gan Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, gan gynnal miloedd o weithgareddau coffa addysgol ar gyfer y cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i www.1914.org/partnership.

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru a thu hwnt: https://www.cymruncofio.org.

Dylech nodi y bydd enwau a chyfeiriadau e-bost y cynrychiolwyr yn cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod er mwyn annog gweithio mewn partneriaeth. Nodwch yn eich ateb os yw’n well gennych beidio â rhannu eich cyfeiriad e-bost. Bydd ffotograffydd hefyd yn bresennol yn ystod y dydd. Wrth gofrestru i fynychu bydd yr holl mynychwyr yn cytuno y gellir defnyddio’r ffotograffau hyn gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf mewn deunydd cyfathrebu, gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol.