NEWYDDION

Cerflun Pabi Coch eiconig Weeping Window yn agor yng Nghastell Caernarfon yng Nghymru

08 / 11 / 2016
Weeping Window at Caernarfon Castle / Weeping Window yng Nghastell Caernarfon

Weeping Window yng Nghastell Caernarfon

Bydd y cerflun pabi coch Weeping Window gan yr artist Paul Cummins a’r cynllunydd Tom Piper yn agor yng Nghastell Caernarfon yfory, 11 Hydref 2016. Dyma’r lleoliad cyntaf yng Nghymru i arddangos y cerflun eiconig fel rhan o daith o gwmpas y Deyrnas Unedig a drefnwyd gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU ar gyfer cofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Castell Caernarfon ar lan Afon Seiont yn gadarnle o’r oesoedd canol sydd hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd, a dyma gartref Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, a fu’n ymladd drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys brwydro yn y Somme. Gwasanaethodd nifer o awduron blaenllaw gyda’r gatrawd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys y beirdd David Jones, Siegfried Sassoon, Robert Graves a Hedd Wyn.

Trefnodd gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, gais llwyddiannus i gynnal y gwaith celf enfawr yng Nghastell Caernarfon ym mis Tachwedd 2015, ar y cyd â phrosiect ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Cymru dros Faterion Rhyngwladol.

Bydd y cerflun eiconig, Weeping Window, rhaeadr o fil o flodau pabi coch seramig a wnaed â llaw, yn llifo o waliau’r castell i’r ddaear islaw.

Bydd y gosodiad ar agor i’r cyhoedd yn y Castell bob dydd tan 20 Tachwedd. Gellir cael tocynnau bore a phrynhawn ymlaen llaw am ddim ar-lein drwy gyfrwng Eventbrite Cadw, tra bydd modd i 1,000 yn ychwanegol gael mynediad ar y drws bob dydd.

Ynghyd â’r cyflwyniad hwn, ceir arddangosfa arbennig ‘Cofio dros Heddwch’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys Llyfr Cofio eiconig Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf – ar fenthyg o Deml Heddwch Caerdydd i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol – er mwyn nodi’r paratoadau ar gyfer Dydd y Cofio ar 11 Tachwedd, yn ogystal â chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme ar 18 Tachwedd. Bydd ‘Llwybr Treftadaeth Heddwch’ yn arwain ymwelwyr o gwmpas tref Caernarfon, gan ddechrau yn  Oriel Pendeitsh, ac ymysg nifer o weithgareddau i ysgolion yng Nghaernarfon, cynhelir Cynhadledd Ysgolion a Gwobrau Arwyr Heddwch Cymru Dros Heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf.

Meddai Nigel Hinds, Uwch-gynhyrchydd 14-18 NOW:
“Mae Castell Caernarfon yn lle dwys ac addas i gyflwyno cerflun pabi coch y Weeping Window fel rhan o’r daith ledled y DU. Mae’n arbennig o addas i feddwl y bydd y Pabi yn y Castell yn ystod canmlwyddiant wythnosau olaf Brwydr y Somme, y bu i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig chwarae’r fath ran bwysig ynddi. Mae gan gerflun y pabi allu anhygoel i ddwyn cenedlaethau ynghyd i rannu straeon am y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydw i’n hynod ddiolchgar i lywodraeth y DU a’n holl noddwyr, yn enwedig Ymddiriedolaeth Backstage, a’n noddwyr trafnidiaeth, DAF Trucks, am alluogi cyflwyno cerflun y pabi yng Nghymru am y tro cyntaf.”

Bu modd i Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, ymweld â’r cerflun yn ystod dangosiad rhag-blaen a gyflwynwyd gan dywyswyr gwirfoddol Cymru dros Heddwch, a fydd yn croesawu hyd at 3,000 o ymwelwyr bob dydd, gyda chymorth Amgueddfeydd Gwynedd, yn ystod cyfnod chwe wythnos y cerflun yn y Castell.

Meddai hi:
“Mae gweld Weeping Window yn dod i Gastell Caernarfon yn nodi digwyddiad diwylliannol o bwys i bobl Cymru. Teimlwyd y golled a gafwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am genedlaethau, ac mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle pwysig i gofio a nodi’r holl bobl a gollwyd.

“Rwy’n falch o weld Weeping Window yma yn amgylchedd bendigedig Castell Caernarfon. Fe ges fy nghyffwrdd gan y ffordd y mae pobl leol wedi croesawu’r arddangosfa ac wedi ymwneud â’r rhaglen o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnig gan Gymru dros Heddwch.”

Mae Weeping Window yn un o ddau gerflun a ddaeth yn wreiddiol o’r gosodiad Blood Swept Lands and Seas of Red – y pabïau a’r syniad gwreiddiol gan yr artist Paul Cummins a’r gosodiad wedi’i gynllunio gan Tom Piper – gan Paul Cummins Ceramics Cyf ar y cyd â’r Palasau Brenhinol Hanesyddol. Gwelwyd y gosodiad yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014 pan gafodd 888,246 o babi unigol eu harddangos, un ar gyfer cofio pob un a fu farw o’r lluoedd Prydeinig a Threfedigaethol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Weeping Window yw’r rhaeadr babi a welwyd yn arllwys o ffenestr uchel i’r gwair islaw, Mae’r ail gerflun, Wave, hefyd yn teithio o gwmpas y DU.

Mae’r ddau gerflun pabi, Wave a Weeping Window, sy’n cynnwys dros 11,000 pabi rhyngddyn nhw, wedi cael eu cadw i’r genedl gan Ymddiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield, a’u rhoi’n anrheg i 14-18 NOW a’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol.

Mae 14-18 NOW wrth eu bodd i fod yn bartner ar y cyd â’r noddwr trafnidiaeth DAF Trucks er mwyn galluogi’r prosiect hanesyddol hwn i ddigwydd. Derbyniwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer taith y pabi gan Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, a’r Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Cefnogir rhaglen addysg a denu  rhaglen daith y pabi gan Sefydliad Foyle.

I gael manylion am y rhaglen lawn, ewch i:
www.1418now.org.uk

I archebu tocynnau ymlaen llaw i weld Weeping Window yng Nghastell Caernarfon ewch i:
www.caernarfonpoppies.eventbrite.co.uk