NEWYDDION

Gregynog Festival – “Freakshow”

01 / 12 / 2016

Gwaith comisiwn Gŵyl Gregynog i gael ei berfformiad premiere Gwyddelig ar 2 Rhagfyr

Bydd gwaith a gomisiynwyd yn arbennig gan Ŵyl Gregynog fel rhan o’i dymor Éire 2016, yn cael ei berfformiad premiere Gwyddelig ar nos Wener, 2 Rhagfyr 2016, am 7.30pm.

Caiff y gerddoriaeth, a gyfansoddwyd gan Sam Perkin, ei chlywed yn ystod cyngerdd agoriadol Gŵyl Cerddoriaeth Siambr y Gaeaf y Fidelio Trio, a gyflwynir ar y cyd â Music at DCU a GlasDrum, yn lleoliad cartrefol,18fed ganrif Belvedere House ar Gampws St Patrick, Prifysgol Dinas Dulyn.

Dywedodd Dr Rhian Davies, Cyfarwyddydd Artistig Gŵyl Gregynog:

“Gregynog yw’r ŵyl cerddoriaeth glasurol hynaf yng Nghymru ac mae ganddi draddodiad hir ac anrhydeddus o gomisiynu cyfansoddwyr a pherfformiadau cyntaf yn dyddio’n ôl i Ralph Vaughan Williams a Gustav Holst yn yr 1930au.

“Fel rhan o ddathliadau cenedlaethol Cymru ac Iwerddon o Wrthryfel y Pasg, buom yn cydweithio â Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 Llywodraeth Cymru i greu cyfres o ddigwyddiadau sy’n amlygu hanes anghofiedig y gwersyll carchar yn Fron-goch ger Y Bala, lle y carcharwyd 1,800 o wrthryfelwyr Gwyddelig rhwng mis Mehefin a Rhagfyr 1916.

“Cynhwyswyd cerddoriaeth, drama a sgyrsiau am y Gwrthryfel yn rhaglen Gŵyl Gregynog fis Mehefin diwethaf, a’r canolbwynt oedd perfformiad premiere byd “Freakshow” gan Sam Perkin, triawd piano newydd yr oeddem yn falch iawn o’i gomisiynu ar gyfer y Fidelio Trio yn ystod yr un tymor pan gawsant eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr RPS bwysig ar gyfer yr ensemble siambr gorau.”

Ychwanegodd Sam Perkin:

Ysbrydolwyd “Freakshow” gan ymchwil y newyddiadurwr a’r darlledwr o Gymro Lyn Ebenezer, y mae ei lyfr Fron-Goch Camp 1916 yn esbonio sut ddaeth y gwersyll i gael ei alw’n ‘Brifysgol y Chwyldro’ gan y cafodd cymeriadau blaenllaw fel Michael Collins eu carcharu yno.

“Taniodd un hanesyn fy nychymyg yn arbennig: stori Syrcas y Llygod Mawr sy’n agor y drws ar fyd absẃrd y Suite macabre hon. Arferai un o’r carcharorion yn Fron-goch ddefnyddio pob dull posib o ddal y llygod mawr yma er mwyn cyflwyno sioe ar gyfer ei gyd-garcharorion. O safbwynt gyfansoddi arosgo a thrwy lens macabre, penderfynais ysgrifennu cyfres o ddarnau byrion wedi’u cyflwyno i sêr y “Freakshow”.

Gan adeiladu ar themâu caethiwed a golygfa, mae’r saith symudiad yn y gwaith yn archwilio saith stori wahanol, gan gynnwys The Two-Headed Nightingale a The Armless Fiddler.

“Rwyf wrth fy modd y caiff y gerddoriaeth ei chlywed yn Iwerddon cyn diwedd blwyddyn y dathlu, ac y cynhaliwyd y perfformiadau premiere byd a Gwyddelig ym misoedd Mehefin a Rhagfyr 2016, sef yr un cyfnod ag y bu Gwersyll Fron-goch ar agor ganrif yn ôl.” Mae Sam Perkin hefyd wedi golygu ffilm ddogfen fer am wneud “Freakshow” fydd yn cael ei ddangosiad premiere yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, Collins Barracks, Benburb Street, Dulyn 7, ar ddydd Mawrth 6 Rhagfyr am 12 ganolddydd.

Mae’r dangosiad yn rhan o’r digwyddiad lansio ar gyfer cyfres o arddangosiadau newydd 1916 ar gyfer prosiect Inspiring Ireland Cadwrfa Ddigidol Iwerddon ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, Llyfrgell  Genedlaethol Iwerddon a Chasgliad y Werin Cymru.