Oriel Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 -1918
22 / 02 / 2017
Yn y Diwrnod Partneriaethau ar 26 Ionawr 2017, lansiodd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918, mewn partneriaeth â Casgliad y Werin Cymru nodwedd ‘Oriel’ newydd ar ei wefan. Mae’r nodwedd newydd cyffrous hwn yn dod â’r casgliad cyfan o ffotograffau, llythyrau a chofnodion llafar sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru o wefan Casgliad y Werin Cymru yn uniongyrchol i wefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918. Gall y defnyddwyr edrych ar y casgliad diddorol cyfan a chwilio am gynnwys sy’n gysylltiedig â phwnc neu brwydr arbennig.
Mae Cynghorydd Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Goffáu Canmlwyddiant ers y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Athro Syr Deian Hopkin:
‘Mae’r Oriel newydd yn ehangu’r gynulleidfa’n sylweddol ar gyfer y casgliad hynod o ddeunydd hanesyddol ac arteffactau y mae Casgliad y Werin wedi ei gasglu i sicrhau y ball ymwelwyr i’r safle ychwanegu at eu gwaith ymchwil. Dyma gam mawr arall ymlaen tuag at greu gwaddol digidol ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf.”
I edrych ar yr Oriel, ewch yma.