“Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol : Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele)” Broses Gofrestru
09 / 03 / 2017Ar 26 Ionawr, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones mai prif ffocws coffâd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 eleni fyddai canmlwyddiant Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele), a fydd yn cael ei choffáu mewn Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol wrth y Gofeb Gymreig yn Langemark, Gwlad Belg ar 31 Gorffennaf 2017.
Mae Trydedd Frwydr Ypres o arwyddocâd arbennig i Gymru am i lawer iawn o filwyr o Gymru golli eu bywydau yno, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn. Lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 2017 a chafodd ei gladdu ym mynwent Artillery Wood Comisiwm Beddau Rhyfel y Gymanwlad ger Ypres / Ieper.
Cynhelir y gwasanaeth ger Cofeb y Cymry yn Fflandrys (Ypres) yn Langemark. Mae’r dyddiad hwn yn arwyddocaol oherwydd dyna pryd y cychwynnodd Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele) 100 mlynedd yn ôl, ac roedd y 38fed Adran (Gymreig) yn rhan amlwg o’r frwydr yn Pilckem Ridge, ble y saif Cofeb Genedlaethol y Cymry heddiw.
Cafodd Cofeb y Cymry, sydd wedi’i chodi i gofio pob un o Gymru a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ei dadorchuddio yn 2014 wedi i Grŵp Ymgyrch Cofeb y Cymry yn Fflandrys godi arian am sawl blwyddyn i sefydlu cofeb barhaol i nodi gwasanaeth y dynion a’r merched o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Cofeb y Cymry yn Boezingestraat 158, 8920 Langemark-Poelkapelle, Gwlad Belg.
Bydd croeso i bawb fynychu’r Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ond rhaid cofrestru ymlaen llaw erbyn 26 Mawrth 2017 ar y ddolen sy’n dilyn: www.smartsurvey.co.uk/s/fflandrys Caniateir mynediad trwy docynnau wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig.
Gall pobl hefyd gofrestru drwy anfon y ffurflenni amgaeedig at Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 1918, Cyfathrebu’r Cabinet, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
I weld neu argraffu dogfen Word o’r Ffurflen Cofrestru am Docynnau cliciwch yma.
Os hoffech dderbyn copïau caled o’r ffurflen I ffoniwch 0300 062 2415.
Saesneg – www.smartsurvey.co.uk/s/flanders
Cymraeg – www.smartsurvey.co.uk/s/fflandrys
Iseldireg – www.smartsurvey.co.uk/s/vlaanderen
Ffrangeg – www.smartsurvey.co.uk/s/flandres