NEWYDDION

App gan Goleg Cymunedol Tonypandy i Gofio’r Meirwon

09 / 03 / 2017

Mae Coleg Cymunedol Tonypandy’n anrhydeddu’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf, drwy gyflwyno App Y Rhondda’n Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf heddiw (dydd Iau Mawrth 9fed 2017).

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r prosiect a barodd ddwy flynedd wedi arwain at lansiad swyddogol yr App gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg.

Dywedodd: “Mae’n bwysig iawn i ni barhau i gofio pawb a effeithiwyd gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a choffáu bywydau’r rhai a gollwyd mewn gwrthdaro. Mae’n amlwg fod disgyblion Coleg Cymunedol Tonypandy wedi gweithio’n anhygoel o galed er mwyn creu’r adnodd gwych yma, – adnodd sy’n adrodd “Hanes y Rhondda” drwy leisiau ei chymunedau, ei theuluoedd, ei hysgolion, ei chofebion, ei diwydiant a’i hadloniant.”

Mae’r myfyrwyr wedi creu app ar gyfer ipad a thabledi Android sy’n crynhoi adnoddau, dogfennau hanesyddol a gwaith ymchwil i fywydau  arwyr dewr y Rhondda Ganol.

Ar gyfer y prosiect, fe wnaethant ymchwil i sawl agwedd o’r Rhyfel Mawr, yn cynnwys y cofebion rhyfel, hanesion am y meirwon dewr, a’r modd y gwnaeth hyn ddylanwadu ar ddiwydiant, adloniant, iechyd, cyflenwadau bwyd a rôl menywod.

Fe wnaeth y myfyrwyr gynnal eu hymchwil mewn llyfrgelloedd lleol, yn Archifdy Morgannwg ac yn  ‘Firing Line’, – Amgueddfa’r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd.

Mae eu gwaith wedi derbyn cymeradwyaeth hefyd gan ddisgynyddion David Lloyd George, sef y Prif Weinidog yn ystod y Rhyfel.

Aeth grŵp mawr i ymweld â Gwlad Belg a Ffrainc er mwyn talu teyrnged ym mynwentydd ac wrth gofiannau Ypres a Choedwig Mametz, lle mae llawer o aelodau Bataliynau’r Rhondda’n cael eu coffáu.

Bu hyn yn gyfle hefyd i fyfyriwr fod y cyntaf o’i deulu i ymweld â bedd ei hen hen dad-cu a gwympodd yn ystod brwydr.

Mae’r App yn cynnwys cofeb ryfel rhyngweithiol, propaganda, delweddau a gwybodaeth sy’n adrodd hanes pwysig am aberth teuluoedd y Rhondda.

Mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth a chaneuon wedi eu cyfansoddi a’u perfformio gan fyfyrwyr, yn ogystal ag areithiau bywiog y cyfnod a hyd yn oed glebran mamau’r Rhondda’n brwydro am  yr hawl i bleidleisio.

Mae llawer o gyfadrannau’r Coleg, e.e., dyniaethau, celfyddydau perfformio a TGCh,  wedi eu cynnwys, ac mae’r myfyrwyr wedi meithrin sgiliau mewn datblygu cyfryngau, cynhyrchu gwefan, blogio, golygu ffilm ac ysgrifennu caneuon.

Meddai Nathan Prygodzicz, Prifathro Coleg Cymunedol Tonypandy: “Oherwydd yr app newydd yma, mae pobl y Rhondda’n cofio’r rhai wnaeth ymladd dros eu gwlad a’u Brenin, y rhai a aberthodd eu bywyd er mwyn i ni gael bod yn rhydd, a’r rhai oedd yn gwrthwynebu rhyfel.

“Fe wnaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ail-lunio cymdeithas, ac mae myfyrwyr Coleg Cymunedol Tonypandy wedi gweithio’n ddiflino i greu’r ffordd newydd a chyffrous yma o goffáu drwy ddefnyddio  cyfryngau digidol. Sy’n deyrnged addas i’r rhai fu’n ymladd ganrif yn ôl.”