Nerys Williams i gyflawni preswyliad llenyddol ym Mrwsel
30 / 03 / 2017Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi bydd yr awdur Nerys Williams yn cyflawni preswyliad llenyddol ym Mrwsel ym mis Mai eleni.
Mae’r preswyliad yn rhan o Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, prosiect sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd Barddoniaeth Colled yn rhoi sylw penodol i Hedd Wyn, a laddwyd ar faes y gâd yn Fflandrys, ger Ypres, ar 31 Gorffennaf 1917. Rheolir y prosiect gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Llywodraeth Fflandrys.
Yn wreiddiol o Sir Gaerfyddin, mae Nerys Williams yn Athro Cysylltiol mewn Llên Americanaidd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, ac yn gynfyfyriwr Fulbright. Mae Nerys wedi ysgrifennu’n helaeth ar farddoniaeth gyfoes ac enillodd ei chyfrol o gerddi Sound Archive (Seren, 2011) wobr ‘Strong’ yn Iwerddon am gyfrol gyntaf (2012), a’i henwebu am wobr cyfrol gyntaf Forward. Hi sy’n dal gwobr cerdd unigol Teddy Mc Nulty Poetry Ireland. Mae erthyglau a phenodau diweddar ganddi yn archwilio sut mae barddoniaeth gyfoes o America yn adlewyrchu rhyfeloedd Affganistan ac Irac; a pherthynas barddoniaeth o Gymru yn y cyfnod ar ôl datganoli â diwylliant militaraidd. Mae’n byw yn Kells, Co. Meath, gyda’i gŵr a’i merch.
Meddai Nerys Williams: “Yn ystod y preswyliad byddaf yn canobwyntio ar gwblhau cerdd hir o’r enw Pontio, sy’n darlunio sefyllfa ddychymgus ble byddai Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge yn cwrdd. Lladdwyd y ddau ar Pilckem Ridge ar 31 Gorffennaf 1917. Y mae cymhlethdod y sefyllfa – y naill yn Gymro Cymraeg a orfodwyd i ymrestru a’r llall yn dewis brwydro dros Brydain ar amser pan roedd Iwerddon yn brwydro dros annibyniaeth – yn codi cwestiynau perthnasol yn ymwneud â chenedlaetholdeb, Ewropeaeth, dyfeisgarwch ieithyddol, yn ogystal â her moderniaeth ar ffurfiau barddoniaeth traddodiadol. Mae’r gerdd yn holi a oes diwylliant militaraidd wedi tyfu yng Nghymru yn y cyfnod ers datganoli, a sut ydw i fel bardd benywaidd, dwyieithog, gwrth-ymladdol, yn ymhel â hanes rhyfela? Mi fydd hyn yn rhoi cyfle hefyd i baratoi a llunio dau brosiect radio ac ymweld a’r ardal o amgylch Artillery Wood, ble claddwyd Hedd Wyn a Francis Ledwidge.”
Prif leoliad y preswyliad fydd Passa Porta (www.passaporta.be), Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel. Mae Passa Porta wedi ei leoli yng nghanol Brwsel, ac mae’n lleoliad unigryw i awduron, darllenwyr, cyfieithwyr a chanolwyr o bob cwr o’r byd gyfarfod a gweithio.
Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017
I ddarllen rhagor am y prosiect ehangach, Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, cliciwch yma.