Diwrnod Partneriaeth y Canmlwyddiant Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ac Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth, 2017
25 / 05 / 2017Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i’r rheini a ddaeth i Ddiwrnod Partneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhaliwyd ar y cyd ag Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth ar 26 Ionawr ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Yn ystod y digwyddiad, lansiwyd llyfryn Rhaglen 2017 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn ynghylch y digwyddiad. Ceir crynodeb ohono yma. Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o gynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf.
Casgliad y Werin sy’n rheoli gwefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Arni, ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau, newyddion a gwasanaethau sy’n cyfeirio at weithgareddau sydd o ddiddordeb i Gymru. Am weddill y cyfnod coffáu, bydd y wefan yn parhau i roi sylw i’r ffordd y bydd pobl Cymru’n cofio’r canmlwyddiant pwysig hwn yng Nghymru a thu hwnt, a hynny drwy gyfrwng gwybodaeth a ddarperir gan unigolion, cymunedau a sefydliadau. Mae cyfrifon Twitter a Facebook ar gael hefyd.
Isod, ceir gwybodaeth am rai o’r testunau a drafodwyd yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys adnoddau Prosiect Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru; casgliadau newydd yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi’u creu gan nifer o sefydliadau; a chynlluniau grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ymhlith eraill. Yn ogystal, ceir dolen at ein tudalen Partneriaid lle ceir manylion llawer o’r sefydliadau a oedd yn bresennol yn y digwyddiad.
Rydym yn ddiolchgar i Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth am eu cefnogaeth barhaus wrth inni nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dolenni defnyddiol:
Prosiect Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf
Grant ysgolion uwchradd i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf
Partneriaid Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918
Gwefan Partneriaid Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
Cynlluniau grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf
Ceir lluniau o Ddiwrnod Partneriaeth 2017 ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol (dolenni Twitter a Facebook uchod).”